91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Robin Llywelyn

Adnabod Awdur:
Robin
Llywelyn

Awdur diamynedd

Dydd Iau, Ebrill 12, 2001
• Enw: Robin Llywelyn.

• Beth yw eich gwaith?

Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Portmeirion Cyfyngedig.

• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

Dim llawer.

•ˆO ble¹r ydych chi¹n dod?

Llanfrothen, Meirionnydd.

• Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr?

Minffordd, Meirionnydd.

• Pam sgrifennu llyfrau?

Er mwyn diwallu’r awydd am fynegiant creadigol.

• Pa un yw’r gorau gennych - bod yn feirniad ynteu sgrifennu’n greadigol?
Sgrifennu’n greadigol.

• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
A fyddwch yn edrych arno’n awr?

Blwyddlyfr y ‘Beano’.
Na fyddaf.

• Pwy yw eich hoff awdur?

Franz Kafka.

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Un nos olau leuad, Caradog Prichard; Te yn y Grug, Kate Roberts; The Castle, Franz Kafka; Anna Karenina, Tolstoy; Un Diwrnod, Ivan Denisovitch, Solzhenitsyn; Cre na Cillie, Mairtin O Cadhain.

• Pwy yw eich hoff fardd?

R.S. Thomas.

• Pa un yw eich hoff gerdd?

Marwnad Siôn y Glyn, Lewis Glyn Cothi.

• A pha un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

"Mae arch yn Ystrad Marchell".

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

Blade Runner.
Fawlty Towers.

• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

Deuparth gwaith ei ddechrau.

• Pa gyngor fyddech chi¹n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn awdur?
Dysgwch i deipio.

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?

Canu piano.

• Pa dri gair sy’n ei disgrifio chi orau?

Diamynedd.

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?

Padrig Pearse am ei weledigaeth.

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Canlyniad Pleidlais y Refferendwm yng Nghaerdydd.

• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Llywelyn ap Gruffudd.
"Paid a mynd i Gilmeri" .

• Pa un yw eich hoff daith a pham?

Ar hyd yr A487 i Benrhyndeudraeth.
"Teg edrych tuag adref".

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

Pysgod ffres yn Nhir-a-Môr, Cricieth

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

Darllen.

• Pa un yw eich hoff liw?

Gwyn.

• Pa liw yw eich byd?

Gwyrdd.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Nagoes.


••• Ydych chi wedi darllen
llyfrau Robin Llywelyn - beth yw eich barn chi?
Ebostiwch
i ddweud . . .


• Cyfrol newydd am ei waith


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy