91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Angharad Tomos

Adnabod Awdur:
Angharad Tomos

Un danbaid, driw a blin!

Dydd Iau, Mawrth 29, 2001
Holi Angharad Tomos, mam Rala Rwdins.

• Enw
:
Angharad Tomos

Beth yw eich gwaith?

Ysgrifennu ac ymgyrchu

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

Ysgrifennydd i Gymdeithas yr Iaith, Dylunydd Graffig, Awdur Preswyl

O ble¹r ydych chi¹n dod?

Llanwnda, ger Caernarfon

Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr?

Penygroes, Dyffryn Nantlle

Pam sgrifennu llyfrau?

Am fod gen i stori i’w dweud, a phrofiad i’w rannu

Pa un yw’r gorau gennych - sgrifennu I blant ynteu oedolion? A yw un yn haws na’r llall?
Mae’r ddau yn gwbl wahanol. Dydw i ddim mor ddwys pan yn ysgrifennu i blant. Gwerthfawrogi’r amrywiaeth ydw i.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? A fyddwch yn edrych arno’n awr?

Haf a’i Ffrindiau a Theulu’r Nenfwd. Wrth edrych arnynt yn awr, mae’r darluniau yn dod a’r stori yn ôl i mi yn gymaint a’r geiriau.

Pwy yw eich hoff awdur?

Islwyn Ffowc Elis, Marion Eames, Isabelle Allende a Milan Kundera

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Un Nos Ola Leuad ddylanwadodd ar fy arddull, a pheidio peri i mi ofni defnyddio tafodiaith.

Pwy yw eich hoff fardd?

T.H.Parry-Williams, Waldo a Phantycelyn

Pa un yw eich hoff gerdd?

Dwy Gerdd, T.H.Parry Williams

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

Dr.Zhivago.
Ar y teledu, Eastenders ac unrhyw raglen hanes.

Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir?

Hanes yw brwydr cofio yn erbyn angof

Pa gyngor fyddech chi¹n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn awdur?
Sgwennu, sgwennu, sgwennu

Pa ddawn hoffech chi ei chael?

Y ddawn i chwarae offeryn cerdd – a’r gallu i hedfan

Pa dri gair sy’n ei disgrifio chi orau?

Tanbaid,
Triw,
Blin

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Pobl gyffredin sydd wedi dyfalbarhau er gwaethaf popeth er na chawsant gydnabyddiaeth fel unigolion.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

Ynghanol y berw ymysg y Piwritaniaid Cymreig yn syth wedi dienyddiad Siarl I

Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chwi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Hoffwn fod yn bryf ar y wal yn gwylio yr Esgob William Morgan yn cyfieithu’r Beibl. Fyddwn i ddim eisiau dweud dim byd, dim ond gwylio a rhyfeddu at ei ddyfalbarhad.

Pa un yw eich hoff daith a pham?

Ar fy ngwyliau ar fin gweld golygfa yr wyf wedi darllen amdani, wedi ei dychmygu, ac rwyf am gael ei phrofi mewn tri dimensiwn.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

Pryd Arabaidd o cous cous, llysiau, dates ac orennau

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

Dringo mynyddoedd Cymru a cherdded ar lwybrau mwy fflat

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Dwi wrthi’n sgwennu hanes bywyd fy Nhaid.

sydd newydd ei gyhoeddi


Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy