|
|
Adnabod
Awdur:
Menna Elfyn
Bardd
aflonydd sydd wedi teithio'r byd gyda'i barddoniaeth
Dydd Iau, Mawrth 22, 2001
|
Holi
Menna Elfyn, bardd ac awdur.
Enw:
Menna Elfyn
Beth yw eich gwaith?
Awdur.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Darlithydd. Ymchwilydd.
O ble鈥檙 ydych chi鈥檔 dod?
O Bontardawe i Beniel i Landysul. H.y. De Cymru.
Lle鈥檙 ydych chi鈥檔 byw yn awr?
Llandysul/Caerdydd.
Pam barddoni?
Am na allaf beidio.
Yr ydych wedi teithio llawer - sawl gwlad, sawl milltir?
Gormod i鈥檞 cyfrif - Mexico, Fietnam, Ewrop, America - ddwy waith y
flwyddyn.
Beth yw gwerth teithio o鈥檙 fath - a chwithau yn fardd Cymraeg?
i brofi y gall y Gymraeg fod yn iaith ll锚n y byd i gyd.
Pa ymweliad fu鈥檙 un mwyaf cofiadwy?
Sri Lanka.
Pwy yw eich hoff awdur?
Robert Frost; Elizabeth Bishop; Paul Valery.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Llyfrau Albert Schweitser a Simone Weil.
Pwy yw eich hoff fardd?
Waldo; T. Gwynn Jones.
Pwy yw eich hoff awdur rhyddiaith?
Paul Anster; Romesh Gunesekera
Pa un yw eich hoff gerdd?
Mewn Dau Gae, Waldo.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Dr Zhivago (d锚t cyntaf gyda fy ngwr).
Newsnight; Eastenders.
Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf
at y gwir?
Duw dros bawb.
Pa gyngor fyddech chi鈥檔 ei roi i rywun sydd eisiau bod yn fardd?
Darllen, darllen, darllen. Yn enwedig geiriaduron.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Cyfansoddi cerddoriaeth.
Pa dri gair sy鈥檔 eich disgrifio chi orau?
Aflonydd.
Llonydd.
Llawen.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鈥檔 ei edmygu fwyaf
a pham?
Desmond Tutu.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi wedi hoffi bod yn rhan
ohono?
Cyfnod merched yn ymladd dros y bleidlais.
Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech
chwi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Simone Weil.
Pam? Pam?
Pa un yw eich hoff daith a pham?
O Landysul i Aberystwyth ac yn 么l.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cyri twym.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, sawl un.
Pa linellau o farddoniaeth ydych chi fwyaf balch o fod wedi
eu cyfansoddi?
Heb eu creu eto.
Beth sy鈥檔 sbarduno cerddi?
Darllen.
Teithio.
Joio byw
Poeni am arian a methu a joio byw.
Adolygiad Katie Jones o Cusan Dyn Dall
sydd newydd ei gyhoeddi
|
|
|