|
|
Adnabod
Awdur:
Peidiwch meddwl gormod amdanoch eich hun
Cyngor
bardd i ddarpar feirdd gan Bobi Jones
Dydd Iau, Mawrth 8, 2001
|
Holi
Bobi Jones, bardd, beirniad llenyddol ac ysgolhaig sydd
newydd gyhoeddi cyfrol
am ganu mawl.
Enw:
Robert Maynard Jones (Bobi Jones)
Beth yw eich gwaith?
Athro Prifysgol wedi ymddeol.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Addysgu, erioed.
O ble鈥檙 ydych chi鈥檔 dod?
Caerdydd.
Lle鈥檙 ydych chi鈥檔 byw yn awr?
Aberystwyth.
Pam barddoni a llenydda?
I foli Duw.
Pwy yw eich hoff awdur?
Dafydd ap Gwilym
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Ar wah芒n i鈥檙 Beibl, Y Gomedi Ddwyfol, Dante.
Pwy yw eich hoff fardd?
Heblaw Dafydd ap Gwilym, Waldo Williams.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Heblaw Dante, Marwnad Llywelyn ap Gruffydd gan Ruffydd ap yr
Ynad Coch.
Pwy yw eich hoff awdur rhyddiaith?
D. H. Lawrence.
Pa lyfr rhyddiaith wnaeth yr argraff fwyaf arnoch - ac ym
mha ffordd?
Trosedd a Chosb, Dosdoiefsci -
y syniad o stori dda,
cymeriadu鈥檔 gyfoethog,
awyrgylch gafaelgar.
Yr oedd yn brofiad ysbrydol, fel nofelau eraill D.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Dwy Briodas Ann gan Saunders Lewis gyda Myfanwy Talog.
Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf
at y gwir?
Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd:
Luc 22,2.
Pa gyngor fyddech chi鈥檔 ei roi i rywun sydd eisiau bod yn fardd
neu lenor?
Peidiwch meddwl gormod amdanoch eich hun.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Gostyngeiddrwydd.
Pa dri gair sy鈥檔 eich disgrifio chi orau?
Pechadur
Credadun
Gorfoleddwr
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鈥檔 ei edmygu fwyaf
a pham?
Heblaw Iesu Grist rhaid imi enwi dau, y Brenin Dafydd a'r r Apostol
Paul oherwydd eu mynegiad barddonol o鈥檙 gwirionedd ac oherwydd eu
bywydau lliwgar.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi wedi hoffi bod yn rhan
ohono?
Diwygiad 1762 yn Llangeitho.
Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chwi
yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Ann Griffiths.
Gweddio gyda鈥檔 gilydd.
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Cerdded drwy Sir Benfro gyda鈥檓 gwraig oherwydd harddwch y ddwy.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Rhaid cael panas. Cig eidion, tatw rhost, pys ffres (byth wedi eu
rhewi), ffa, ysgewyll Brwsel, grefi.
Hufen i芒 wedyn.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded,
Darllen
a darllen.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, mae arnaf ofn, cyfrol o gerddi.
Pa linellau o farddoniaeth ydych chi fwyaf balch o fod wedi
eu cyfansoddi?
Dim.
Pam Bobi Jones weithiau ac R. M. Jones droeon eraill?
Dechreuodd fel Bobi Jones oherwydd mai dyna fel y鈥檓 gelwid yn llencyn
(ac o hyd). Mae鈥檙 plentyneiddiwch yn duedd byth.
Rhoddais gyfrol mewn cyfres addysgol i鈥檓 pennaeth, Jac L. Williams,
heb ei llofnodi. Ef么 a鈥檓 henwodd yn R. M. Jones. Fe鈥檌 defnyddiais
wedyn i gynrychioli鈥檙 agwedd dreth incwm ar fy mywyd - y gwaith academaidd
fel arfer. Does dim cysondeb. Ac mae hynny hefyd yn wendid cyson.
|
|
|