|
|
Adnabod
Awdur:
Hen
foi
iawn
.
. . y mae Muhammed Ali, Dafydd ap Gwilym ac R. S. Thomas yn
arwyr iddo!
Dydd Iau, Mawrth 1, 2001 |
Holi
Meirion Macintyre Huws Bardd Plant newydd Cymru
Beth yw eich gwaith?
Dylunydd Graffeg a Chartwnydd - ond mae barddoni, trafod barddoniaeth
a phethau yn ymwneud 芒 barddoniaeth yn gyffredinol yn dod ag incwm
gwerth ei gael hefyd.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Mae gen i radd Dosbarth 1af gydag Anrhydedd mewn Peirianneg Sifil
- wir yr!
Bum yn gweithio am 15 mlynedd, fel peiriannydd gyda'r Bwrdd Dwr cyn
gadael i sefydlu fy nghwmni dylunio fy hun.
Y swydd gyntaf i mi ei chael erioed oedd Dyn Gwerthu Corona (diod
ysgafn llawn siwgwr a gwynt!)
Am gyfnod bum yn glanhau tanciau mewn gwaith trin carthion. Treuliais
chwe mis fel labrwr yn gosod pibelli dwr.
Bum hefyd yn ddyn Stop and Go - job anniddorol iawn.
O ble'r ydych chi'n dod?
Caernarfon - y dref ddifyraf yn y byd.
Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Llanwnda, pedair milltir o Gaernarfon, y dref ddifyraf yn y byd.
Pam barddoni?
Hynny neu daflu fy hun i'r m么r.
Mater o raid yw barddoni i mi - fel anadlu.
Wrth sgwennu byddai'n dianc i fyd arall, lle nad yw dim ond y gerdd
dan sylw yn bwysig ac mae hynny'n brofiad gwerth chweil. Mae bod yn
greadigol, wrth sgwennu ac yn fy ngwaith yn rhoi pleser mawr i mi.
Pwy yw eich hoff awdur?
Twm Miall am ei gyfrolau Cyw Haul a Ciw D么l.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu
arnoch?
Oes, "The Greatest" gan Muhammed Ali. Hunagofiant y paffiwr
ac un o'r dynion dewraf a fu. Mae ei safiadau dros ei gred a thros
ei hil wedi fy ysbrydoli sawl gwaith.
Pwy yw eich hoff fardd?
Dafydd ap Gwilym yn Gymraeg ac RS Thomas yn Saesneg.
Pa un yw eich hoff gerdd?
Cywydd Diolch am Win Coch gan Ieuan Du'r Bilwg (tua 1470)
Pwy yw eich hoff awdur rhyddiaith?
Roddy Doyle y Gwyddel.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Hoff ffilm: The Good, The Bad and The Ugly.
Prin y byddai'n edrych ar y teledu.
Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf
at y gwir?
Am fywyd: "Un ias fer rhwng dwy nos faith"
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn
fardd?
Mae hyd cae rhwng eisiau bod yn fardd a bod yn fardd.
Mae'r gallu gan rai, ond i eraill mae'n waith caled iawn.
Y cyngor gorau fyddai i beidio 芒 bod ag ofn neb wrth sgwennu a pheidio
芒 rhoi gormod o sylw i unrhyw hen gi bach fydd yn cyfarth a chwyno
bob hyn a hyn.
Hefyd, mae'n bwysig i fardd ddarganfod ei lais ei hun yn hytrach na
dynwared lleisiau beirdd eraill.
Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Chwarae offeryn cerdd - yn dda - yr organ geg yn ddelfrydol.
Pa dri gair sy'n ei disgrifio chi orau?
hen foi iawn!
. Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi wedi hoffi bod yn rhan
ohono?
Cerdded ar y lleuad.
Er mwyn cael prawf personol fod y peth yn bosib gan fy mod yn amau
yn gryf mai twyll oedd y cyfan.
Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chwi
yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Owain Glyndwr.
"Deffra".
Pa un yw eich hoff daith a pham?
Ar hyd y Foryd o Bont yr Aber yng Nghaernarfon heibio Porth Lleidiog
ac ymlaen at geg yr Afon Gwyrfai.
Mae'r l么n yn dilyn Afon Menai ac mae'r golygfeydd o Eryri a'r afon
yn odidog a gyda'r harddaf yn unman - yn fy marn i.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Dwy dafell o dost gyda chig moch ac wy, a sglefran o sos coch rhyngddynt.
Pand o de, un siwgwr.
Kit Kat yn bwdin a hyn oll yng Nghaffi'r Cei, Caernarfon ar
fore Sadwrn oer.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Pysgota am frithyll, gyda phlu, yn llynnoedd Eryri.
Pysgota nos am wyniadau (sewin) yn Afon Llyfni.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes, diolch.
Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni fel Bardd Plant Cymru?
Cael plant i fod yn gyfforddus yng ngwmni barddoniaeth boed hynny'n
ei ddarllen neu ei ysgrifennu.
Pa linellau o farddoniaeth ydych chi fwyaf balch o fod wedi
eu cyfansoddi?
Heb ateb!
|
|
|