91Èȱ¬


Explore the 91Èȱ¬

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



91Èȱ¬ 91Èȱ¬page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Adnabod Awdur:

Dyn beics -
a physgod,
tatws a phys!

Llion Iwan, awdur Llyfr y Mis yn datgelu cyfrinachau amdano'i hun!
• Enw:
Llion Iwan

• Beth yw eich gwaith?

Cynhyrchydd, 91Èȱ¬ Cymru

• O ble’r ydych chi’n dod?

Fe ges i ngeni yng Nghaerdydd, ond fy magu yn Waunfawr, Eryri.

• Lle’r ydych chi’n byw yn awr?

Caerdydd

• Pam sgrifennu llyfr?

Dwi wedi bod yn sgwennu ers blynyddoedd ond erioed wedi llwyddo i orffen dim. Y tro yma roedd dyddiad cau ar gyfer y fedal ryddiaith yn ddigon o sbardun.

• Dwedwch ychydig am eich llyfr?

Hanes taith ar feic o Lhasa, Tibet i Kathmandu yn Nepal. (Mil o gilomedrau trwy’r Himalayas.) Disgrifiadau o’r bobl nes i gwrdd, y llefydd a welsom a pheth o hanes y wlad, cysylltiadau Cymreig gydag Everest a peth o’m hanes i hefyd.

• Pwy yw eich hoff awdur?

Bruce Chatwin

• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Gwaed Gwirion, Emrys Jones a Grapes of Wrath, John Steinbeck

• Pwy yw eich hoff fardd?

Dic Jones

• Pa un yw eich hoff gerdd?

Un fuddugol Gerallt Lloyd Owen, (Dwi ddim yn siwr o’r teitl! Cilmeri)
"Wylit wylit Lywelyn, wylit waed pe gwelit hyn…."

• Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

Ar y teledu, ER, a’m hoff ffilm, The Godfather 2

• Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir?

Deuparth gwaith yw ei ddechrau - Just do it, fel dywed slogan Nike!

• Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n bwriadu bod yn awdur?
Darllen popeth a cheisio ysgrifennu / cyfansoddi bob dydd.

• Pa ddawn hoffech chi ei chael?

Syrffio - môr, nid y we.

• Pa dri gair sy’n ei disgrifio chi orau?

Byrbwyll, Triw ac Amyneddgar!

• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf a pham?
Gwynfor Evans

• Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Concro Everest

• Pa un yw eich hoff daith a pham?

Seiclo adref o’r gwaith ar bnawn Gwener

• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

Pysgod, tatws a phys - tydi fy sgiliau coginio ddim i ddibynnu arnyn nhw ar gyfer unrhywbeth mwy cymhleth!

• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

Beicio mynydd a darllen. Mynd allan.

• A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Dwi wrthi’n ceisio sgwennu nofel antur a llyfr taith arall, sef casgliad o bortreadau o bobl dwi wedi eu cwrdd tra’n teithio.

Darllenwch am lyfr Llion
Wythnosau Blaenorol:

Newyddion yr wythnos Y llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod Awdur Llais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a 91Èȱ¬ Cymru'r Byd






About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy