|
Trwy'r Darlun Chwilio am Nain - mewn gwlad ryfeddol
Adolygiad Kate Crockett o Trwy'r Darlun gan Manon Steffan Ros. Cyfres yr Onnen. Y Lolfa. 拢5.95.
Llyfr i ddarllenwyr da rhwng 9-13 oed yw Trwy'r Darlun, nofel gyntaf Manon Steffan Ros, awdures ifanc sydd eisoes wedi gwneud enw iddi hi ei hun fel dramodydd, gan ennill y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.
Sut hwyl felly mae hi'n ei gael ar y cyfrwng newydd?
Plentyn un ar ddeg oed yw Cledwyn, yn cael ei fwlio gan griw o ferched am ei fod yn byw gyda'i nain ac yn hoffi darllen.
Does dim s么n am ei rieni ond mae ganddo chwaer h欧n, Si芒n, yn gwmni.
Un noson mae'r ddau yn deffro i ddarganfod bod eu nain ar goll - a dyna ddechrau taith arallfydol sy'n eu tywys i wlad ryfedd Crug.
Creaduriaid anarferol Mae Crug yn gartref i greaduriaid anarferol o bob math - yr Abarimon chwim, peryglus, a'r Marach hudol sy'n ffoli ar harddwch Si芒n.
Yn y wlad hon daw Cledwyn o hyd i'w gyfaill gorau, creadur bychan, bl锚r o'r enw Gili D诺.
Mae amlwg i'r awdures fwynhau rhoi rhwydd hynt i'w dychymyg yn y cyfrwng newydd hwn, ac yn ei chreadigaethau gwelwn ddylanwad y Mabinogi, chwedlau Taliesin a Llyn y Fan Fach, a Seireniaid y chwedlau Groegaidd.
Mae Cledwyn a Si芒n yn cael anhawster deall y byd anghyfarwydd hwn ond mae gan Gili D诺 gyngor iddyn nhw, yn ei ynganiad unigryw ef ei hun:
"Tydach chi'n coelio mewn dim byd heblaw y petha sy'n gneud synnwyf. Ac mi fydach chi'n chwilio am feswm dfos bob dim; pam bod y gwynt yn chwythu, pam bod 'na lanw a thfai? Y gwif ydi, does 'na ddim ffeswm dfos bob dim, a tydi pob dim ddim yn gwneud synnwyf."
gwersi pwysig Ceisio dod o hyd i Nain yw'r nod, ond mae'r plant yn dysgu nifer o wersi pwysig ar y daith, ac yn dod i ddeall mwy am eu hanes nhw eu hunain fel teulu.
Cafodd y nofel yma ei hysbrydoli yn rhannol gan awydd Manon Steffan Ros i goff谩u ei mam a fu farw o gancr cyn geni ei h诺yr.
Mae'r gwaith yn sbarduno trafodaeth ar deuluoedd amgen, boed hynny oherwydd marwolaeth neu resymau eraill, ac yn cyffwrdd yn effeithiol iawn gyda thema colled.
Gweld tebygrwydd Er mai arallfydol yw trigolion Crug, bydd darllenwyr ifanc craff yn gweld tebygrwydd rhwng eu hymddygiad nhw, a'n byd ni.
Mae'r Marach yn ein hatgoffa o ymddygiad merched yn eu harddegau at ei gilydd, fel yr amlygwyd yn y llyfr (ac yn ddiweddarach, y ffilm), Mean Girls.
Ac mae cyfnod Cledwyn a Si芒n mewn plasty hud, lle nad oes angen gwneud gwaith t欧 na garddio er mwyn cadw'r lle yn berffaith, yn dangos pa mor syrffedus fyddai bywyd heb fod gennym ddyletswyddau bach diflas o ddydd i ddydd!
Gellid bod wedi tynhau'r ysgrifennu ar adegau ac mae ambell frawddeg yn y llyfr sy'n darllen yn chwithig, er enghraifft:
"Roedd meddwl am beth a fyddai ar ben draw'r twnnel yn llenwi meddwl Cledwyn..."
Dod yn fyw Nid dyma'r stori fwyaf gwreiddiol i mi ei darllen erioed ond, a minnau ymhell iawn y tu hwnt i'r oedran darged, gafaelodd ynof yn gryf a daeth creadigaethau Manon Steffan Ros yn fyw iawn wrth ddarllen eu hanes.
Byddai'r nofel yn gwneud ffilm dda petai yna gyllideb ddigonol ar gyfer yr holl effeithiau arbennig fyddai eu hangen!
A pha blentyn fyddai heb ei swyno gan wardrob sy'n creu'r dillad o ddim, na chan y Cnorc, creadur gwenwynig llachar sy'n byw mewn potel wydr?
Y gyntaf Dyma'r nofel gyntaf yng Nghyfres yr Onnen, cyfres o wyth nofel wedi'u hanelu at ddarllenwyr da, ifanc.
Eisoes cawsom nofel wych gan Lleucu Roberts yng Nghyfres y Dderwen ar gyfer darllenwyr da yn eu harddegau. Mae'n amlwg bod galw gan ein plant a'n pobl ifanc am nofelau uchelgeisiol yn y Gymraeg ac mae hynny'n galondid mawr.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|