|
Rhagom Ar daith drwy ddau ryfel
Adolygiad Catrin Jones o Rhagom gan Angharad Tomos, Gwasg Carreg Gwalch, 拢6.00
I gopa'r Wyddfa ar droad y mileniwm ac mewn car gyda hen wraig - dyna rai o'r teithiau yn nofelau blaenorol Angharad Tomos.
Wedi saith mlynedd o seibiant, braf yw gweld fod ganddi daith arall ar ein cyfer.
Taith drwy ddau ryfel byd a geir yn ei nofel ddiweddaraf, Rhagom, sy'n cwmpasu hanner canrif ac yn darlunio effaith y rhyfeloedd byd ar ddwy genhedlaeth o deulu'r awdures.
Brawd ei nain Mae crynswth y nofel wedi ei seilio ar hanes bywyd brawd ei nain, William Henry Williams o Gaernarfon, ac yna Bethesda.
Dewisodd ef ymuno 芒'r fyddin gyda chriw o Gaernarfon ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. A dyddiaduron Gwilym, fel mae'n cael ei alw yn y llyfr, a'i brofiadau'n ymladd yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna ym Mhalestina yw tarddiad y nofel.
Ar ei dechrau mae ei nai, Gwilym Rhys, yn pendroni am hanes Yncl Gwilym Brawd Mam Wedi Marw, y llanc mewn lifrai yn y ffr芒m arian ar y silff ben t芒n.
Mae'n gyfnod yr Ail Ryfel Byd a chaiff Gwilym Rhys ei anfon i Balestina lle bu ei ewythr flynyddoedd ynghynt. Cyn mynd mae'n darllen llythyrau ei ewythr a daw'r "dyn melyn mewn iwnifform yn y ffr芒m ar y silff ben t芒n yn rhywun o gnawd ac esgyrn, ac wrth fyseddu'r cyfan, daeth stori anhygoel yn fyw...".
Eu hudo gan ryfel Mae rhan helaeth y nofel yn canolbwyntio ar gyfnod Gwilym yn Ffrainc. Gwelwn sut y caiff ef a rhai o hogiau eraill Caernarfon eu hudo gan ramant y rhyfel.
Gwelwn eu cyffro a'u breuddwydion a gaiff eu dryllio ymhen dim wrth iddyn nhw ddod wyneb yn wyneb 芒 realiti'r sefyllfa.
Wrth i'r hogiau geisio ymdopi ag undonedd bywyd yn y gwersylloedd hyfforddi gwelwn effaith penderfyniad Gwilym ar weddill y teulu. Trwy lygaid ei chwaer Hannah gwelwn effaith y rhyfel ar deulu cyffredin yng Nghaernarfon.
Mae Hannah yn ferch annibynnol sy'n breuddwydio am gael teithio'r byd. A hithau ymhell o ffosydd Ffrainc gwelwn fod y rhyfel yn effeithio arni hithau hefyd a'i g诺r sy'n wrthwynebydd cydwybodol.
Mae'r tensiynau a ddeilliodd o'r rhyfel i gyd yn brigo i'r wyneb yma.
Nid yn hawdd Rhagom yw nofel hanesyddol gyntaf Angharad Tomos ac mae'n debyg nad oedd ysgrifennu am ddigwyddiad a fu'n destun cymaint o lenyddiaeth yn ystod yr ugeinfed ganrif yn dasg hawdd.
Gyda llu o nofelau a ffilmiau eisoes wedi darlunio profiad milwyr cyffredin yn ymladd yn ffosydd Ffrainc roeddwn i'n amau a fyddwn i'n mwynhau nofel arall ar y pwnc - ond trwy ddilyn hanes un teulu mae Rhagom yn rhoi golwg llawer mwy personol ar y rhyfel ac Angharad Tomos yn llwyddo i gyfleu'r hunllef a brofodd dwy genhedlaeth, yn filwyr a phobol gyffredin.
Tasg anodd arall mae'n debyg oedd cynnal diddordeb y darllenydd wrth gyfleu'r ymladd. Gall darllen am erchyllterau bywyd yn y ffosydd fod yn faich yn aml ond mae'r awdures yn llwyddo gan fod y penodau am yr hogiau yn Ffrainc wedi eu gosod ochr yn ochr 芒'r penodau am fywyd y teulu yng Nghaernarfon.
Mae'r symud parhaus o'r ffosydd i strydoedd Caernarfon yn gweithio gan roi darlun cyflawn i ni o brofiad y rhyfel.
Creu cymeriadau Hefyd, daw dawn arbennig yr awdures i greu cymeriadau difyr a'r ddeialog rwydd i'r amlwg yn y nofel fel yn ei gweithiau blaenorol.
Mae yma gymeriadau lliwgar fel Hen Walia, Chwech a Tre Go ac er gwaethaf eu sefyllfa mae yma ddigon o hwyl a chwerthin.
Mae'r ffaith fod y cymeriadau yn cael eu henwi ar 么l strydoedd Caernarfon unwaith eto yn pwysleisio mai hogiau cyffredin yw'r rhain a'r golled a brofodd y dref honno.
Heb weithio Ond er imi deimlo ar y cyfan fod yr awdures wedi dygymod 芒'r grefft o ysgrifennu nofel hanes roedd ambell beth nad oedd yn gweithio yn fy marn i.
Ar ddiwedd yr ail bennod ceir adran dan y pennawd 'Ewrop, yn y cyfamser...', lle mae'r awdures yn nodi'r digwyddiadau a arweiniodd at y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'n rhaid imi ddweud na welwn fawr o bwrpas i'r adran hon sy'n tarfu ar rediad y nofel.
A chan nad oes adran arall o'r fath yn y nofel mae'n sefyll fel rhyw atodiad diangen.
Ond dim ond ychydig dudalennau yw'r adran hon mewn nofel sy'n llwyddo i ddarlunio cyfnod a phrofiad un teulu. O erchyllterau maes y gad i ofidion y rhai sydd ymhell o s诺n y gynau mae'r awdures wedi llwyddo i ddod 芒'r gyflafan a ddigwyddodd bron i ganrif yn 么l yn fyw i ni heddiw.
|
Guto, Ynys Mon Mae'r llyfr yma wedi bod yn bleser i mi i'w darllen.
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
| | | | | | | | | | S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 91热爆 Cymru'r Byd.
|
|
|
| | | | | | Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|
|
|
|
|