|
|
Cadarnhau
lle Alan Llwyd fel un o'n beirdd pwysicaf
Darlunio
camwri dyn wrth edrych ymlaen at ganrif newydd dda yn
ei gyfrol ddiweddaraf
Dydd Iau, Rhagfyr 21, 2000 |
Adolygiad
gan Aneirin Karadog:
Ffarwelio â Chanrif gan Alan Llwyd,
Cyhoeddiadau Barddas. £7.95
Gwyddom
i gyd erbyn hyn fod Alan Llwyd yn olygydd, yn awdur, yn sgriptiwr,
i enwi ond rhai o’r pethau y gall droi ei law atynt.
Yr hyn a wna’r gyfrol hon yw cadarnhau’r ffaith mai bardd ydyw yn
ei hanfod, a’i fod yn fardd a hanner hefyd.
Rhennir y gyfrol hudolus hon yn dair.
Y rhan gyntaf
Yn y gyntaf, ceir cerddi unigol a luniwyd
gan Alan Llwyd rhwng 1996 a 2000. Yma ceir marwnadau ac englynion
coffa i amryw o bobl; yn feirdd, yn ffigurau hanesyddol ac yn gyfeillion
da.
Mae’n amlwg fod marwolaeth Rhydwen Williams y bardd a’r llenor, a’r
bardd Arfon Williams wedi effeithio’n fawr arno.
Yn ei gadwyn o englynion i Arfon, ceir cyfeiriad at Rhydwen
hefyd gan ddweud fod y ddau yn ddail a ddygwyd yn sydyn o goeden.
Nes y daeth arswyd wynt
i ddwyn y ddau ohonynt.
Serch hynny, ceir yma fwy na dwy gerdd o sylwedd yn coffáu, ynghyd
ag englynion cofiadwy i eraill sy’n dangos cymaint o barch sydd gan
y gwr hwn tuag atynt oll. Mae’r gerdd benrydd-gynganeddol, Y Llyn,
yn hynod o afaelgar wrth i’r bardd goffáu Geraint Morris.
Ceir hefyd gerddi’n cyfarch beirdd eraill a lwyddodd i’w hudo yntau
gyda’u cerddi cain; Emyr Lewis, y bardd sydd "rhwng y sêr yn rhywle.."
a Ceri Wyn "… sy’n fardd o’r crud".
Gallwn hefyd uniaethu â nifer o’r cerddi yn yr adran hon; megis y
gerdd Eira yn Chwefror a’r darlun trist sydd gan bob un ohonom
yn y cof o’r eira’n dadmer a throi’n slwsh pyglyd.
Serch hynny, mae yna hefyd gerddi gobeithiol, fel ei gadwyn o englynion
mawl i Rhiannon, merch gyntaf-anedig Iwan a Nia Llwyd.
Drwy ichi eni’r ferch hon – y ganed
i’r genedl obeithion
Yna ceir ambell i gerdd, fel Dwy gerdd ynghylch hunaniaeth
sy’n ein hogi i feddwl.
Awgrymaf yn gryf y dylem ni i gyd ddarllen y ddwy gerdd yma, fel Cymry
Cymraeg.
Efallai y byddai’n werth ystyried eu cyfieithu i’r Saenseg hefyd.
"Claddwn y delweddau bellach" yw llinell gyntaf yr ail gerdd,
gan ddatgan bwriad y bardd o’r dechrau.
Wrth i’r bardd ganu mawl, neu dalu teyrnged, i ffigurau mawr y gorffennol
yn hanes ein llên, drwy ymweld â’u beddau, disgrifir y profiad yn
hynod o deimladwy yn y gerdd, Tri Bedd mewn un Diwrnod.
Yr ail ran
Symudwn ymlaen wedyn o’r canu personol a geir yn yr adran gyntaf at
y Cantawd, sef yr ail adran.
Yr hyn a geir yma yw’r geiriau i gywaith a gomisiynwyd gan y cerddor
ac uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, Richard Elfyn Jones.
Ond nid dim ond geiriau a geir yma, mae’r adran hon yn llawn barddoniaeth,
wrth reswm, ond bod mydryddiaeth, neu fesurau’r cerddi, yn dynnach,
yn naturiol, gan mai i’w canu y’u lluniwyd.
Y teitl ar y gwaith hwn yw Goroesiad Cenedl gyda chariad y
bardd at ei wlad a’i iaith yn amlygu ei hunan drwy’r gyfeiriadaeth
at hanes ein gwlad ac hyd yn oed yn nheitl y cywaith.
Yn bersonol, teimlaf mai Offeren Gwenllian yw’r gerdd orau
yma. Yn bennaf, oherwydd ceinder syml y gerdd sy’n ymblethu’n wych
â’r mesur uchelgeisiol a roddwyd iddi.
Mae Brad y Pedair Elfen hefyd yn gerdd afaelgar ac yn sicr
o atgoffa nifer ohonom am drychinebau fel Aberfan a boddi Cwm Celyn
a effeithiodd mor ddirfawr arnom fel cenedl.
"bro fud oedd Aberfan"
O ddarllen yr adran hon daw chwant i weld y perfformiad hwn gan yr
unawdydd Janet Shell a Chôr Gwyl Gerdd Maldwyn; er mai fel rhan o
ddathliadau’r Mileniwm y cyfansoddwyd y gwaith, dylid ystyried taith,
pe na bai ond i gael gwrando ar y geiriau’n ymblethu â’r gerddoriaeth.
Y drydedd a phrif adran
Mae’r drydedd a phrif adran yn dwyn teitl y llyfr, Ffarwelio â
Chanrif, â’r is-bennawd : Delweddau o’r ugeinfed ganrif.
Yn wir, mae’r delweddau sydd ym mhen Alan Llwyd o’r ganrif a aeth
heibio yn rhai gwych ochr yn ocgr a’i ddawn i drin geiriau.
Ac er bod ganddo feddwl arallfydol ar brydiau nid meddwl ‘waci’ mohono.
Er enghraifft, mae’r ddelwedd a greir gan y prifardd o’r ferch fach
yn y llun enwog hwnnw gan Kevin Carter o ryfel Vietnam, Phan Thi
Kim Phuc, mor fyw â real nes ei bod yn ymlyu ar yr hunllefus a’r
arswydus.
Wrth ddarllen y gerdd hon, cawn y teimlad o fod ym meddwl y bardd,
yn edrych drwy ei lygaid wrth iddo astudio’r llun. Gwêl yntau’r ferch
yn "rhedeg oddi ar y saithdegau" ac yn parhau i redeg am byth:
"yn rhedeg a rhedeg ymhle bynnag yr ydym,
yn rhedeg ar hyd y geiriau hyn."
Dim ond un enghraifft yw’r dyfyniad uchod o gampwaith Alan Llwyd.
Ceir yma amrywiaeth eang o fesurau’n cael eu plethu â’r gynghanedd,
a hynny yn groyw, drwy gydol y deugain o gerddi sy’n croniclo agwedd
ar hanes ein canrif ni.
Ein digalonni gan gamwri dyn
Mae’n bwysig pwysleisio mai agwedd ar y ganrif a geir yma hefyd.
Sonnir yn bennaf am drychinebau ac amseroedd trist y ganrif ; yn wir,
o’r dechrau gobeithiol a geir yn y gerdd gyntaf, Canrif Newydd
Dda!, tan y gerdd olaf ond un, Mawl y Rhai Da, fe’n digalonnir
gan gamweddau dyn ar hyd y can mlynedd a fu.
Mewn cerdd sy’n coffáu Stephen Lawrence cyfeirir yn ôl at yr ail ryfel
byd a gweithredoedd erchyll y Natsïaid.
Cawn ein gorfodi gan y bardd i ofyn i ni’n hunain os dysgasom unrhyw
beth o gamweddau’r rhyfeloedd byd a fu.
"Mae ôl lladd ar bum llaw,
ôl lladd ar y pum llaw wen."
Byddai’r negatifrwydd hwn yn wendid yn y gyfrol pe na byddai’r bardd
wedi cynnwys y gerdd, Mawl y rhai Da - a gwnaeth hynny’n fwriadol
wrth gwrs ac yn hynod effeithiol.
Pwrpas y gerdd hon yw codi’n calonnau ynghyd â dangos inni fod yna
wastad obaith yn ein byd er gwaethaf ei galedi a thrais.
Daeth pobl fel y Fam Teresa ac eraill i’r byd i rannu eu haelioni
a’u daioni â chymaint o anffodusion:
"Ynghanol yr holl ddrygioni, yr oedd rhai yn lledaenu daioni"
Fel y disgwylid, mae’r gynghanedd yn chwarae rhan amlwg yn y gyfrol
hon, gan ymddangos ymhob un o’r cerddi, hyd yn oed yn y baledi a’r
cerddi penrhydd cyfareddol.
Y gynghanedd yn llifo'n rhwydd
Yn wir, mae’r gynghanedd yn y gyfrol hon yn llifo’n rhwydd, fel pe
bai’r ddawn hon yn ail natur i’r bardd
Gellir ymgolli a meddwi’n rhwydd ar eiriau’r cerddi’n unig, heb sôn
am y negeseuon a’r delweddau, yn enwedig y rhai a geir yn yr adran
hon o’r gyfrol.
Nid yw’r gyfrol, fodd bynnag, yn llawn o bethau y byddem yn disgwyl
i Alan Llwyd eu gwneud a’u cynnwys, fel y profa pennill olaf ei gerdd
sy’n cofio marwolaeth Lorca ym 1936.
A dweud y gwir, roedd y dyfyniad canlynol yn hollol annisgwyl i mi
yn bersonol, gan ddangos nad yw’r bardd yn ofni sôn am bynciau sydd
efallai’n dal i fod yn bynciau tabw yn ein cymdeithas ni o hyd:
"Na, na, ni laddwyd lorca dan leuad loyw,
dim ond ei saethu
yn nhwll ei ben-ôl
i wawdio ei wrywgydiaeth."
Dylai’r llyfr hwn roi lle sicrach fyth i Alan Llwyd o hyn allan fel
un o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain.
Mae’n profi hefyd nad oes angen defnyddio hiwmor bob tro er mwyn hoelio
llygaid y darllenydd ar dudalen drwy gydol y llyfr.
Dylai’r gyfrol hon fod ar silffoedd pawb.
|
|
|