|
|
Help
gyda'ch
taith i Batagonia
Rhoi
teithwyr o Gymru
ar ben y ffordd
Dydd Iau, Awst 3, 2000 |
gan
Glyn Evans
Ymhlith dosbarth arbennig o Gymry y mae yr hyn sydd ar 么l o鈥檙 wladfa
Gymreig ym Mhatagonia yn dod yn lle mwy a mwy poblogaidd i ymweld
ag ef.
Am flynyddoedd cafodd y Wladfa unigryw hon ei hanwybyddu, i bob diben,
ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf ffurfiwyd cysylltiadau a chyfeillgarwch
newydd nes bo鈥檙 ymwneud â hi heddiw yn fywiocach ac yn gynhesach
nag y bu erioed o bosib.
Sylwodd disgynyddion y Cymry cynnar fod mwy a mwy o Gymru yn ymweld
芒 hwy erbyn hyn hefyd gyda sawl taith y flwyddyn yn cael ei threfnu.
Canmol y croeso
Nid oes amheuaeth mai cynyddu a wnaiff y diddordeb hwn dros y blynyddoedd
nesaf wrth iddo ddod yn hwylusach i deithio yno - ac wrth i鈥檙 rhai
sydd wedi ymweld ddychwelyd adref yn diferyd o ganmoliaeth
am y croeso Cymreig a gafwyd wyth mil o filltiroedd o鈥檜 gwlad eu hunain
a straeon am rostio wyn cyfain yn yr awyr iach a chanu emynau mewn
capeli traddodiadol Gymreig.
Mae鈥檔 brofiad sy鈥檔 gyfuniad o鈥檙 ysgytwol a鈥檙 cyfareddol a鈥檙 enigmatig
- ac nid wyf wedi cyfarfod a neb eto sydd wedi ei siomi a鈥檙 ymweliad.
Er, y mae鈥檔 wir i wahanol bobl weld rhywbeth gwahanol wrth edrych
ar yr un pethau!
Heb wybod beth i'w ddisgwyl
Yr hyn sy鈥檔 gyffredin i鈥檙 rhan fwyaf o bobl wrth gychwyn yno ar eu
taith yw na wyddant beth yn union i鈥檞 ddisgwyl ac yn amlach na pheidio
y mae鈥檙 hyn a welant yn dra gwahanol i鈥檙 darlun a grewyd ganddynt
yn niwl eu meddwl.
Mae pob ymwelydd da yn paratoi ar gyfer ei daith yn hytrach na dim
ond codi pac a mynd. Tan yr wythnos hon bu鈥檔 rhaid i鈥檙 teithiwr o
Gymro a鈥檌 fryd ar Batagonia ddibynnu ar adrannau mewn llawlyfrau taith
Saesneg am Ariannin.
Ac mae鈥檔 rhaid cofio mai rhan o wlad enfawr Ariannin yw Patagonia
a bod Patagonia yn llawer iawn, iawn, mwy na dim ond y gornel fechan
a fraenarwyd gan y Cymry.
Yr wythnos hon, fodd bynnag, cyhoeddwyd llyfr poced (yn llythrennol)
wedi ei anelu yn arbennig at ymwelwyr o Gymru 芒鈥檙 gymuned Gymreig
ym Mhatagonia.
Yn
ymwelydd cyson (blynyddol, yn wir) a鈥檙 Wladfa y mae Cathrin Williams
yn ei llyfr, Y Wladfa yn dy Boced, yn gosod y gymuned
Gymraeg-Sbaenaidd yng nghyd-destun gweddill Patagonia ac Ariannin.
Nid llyfr taith mohono ond cyfeirlyfr taith cwbl ymarferol
a hanfodol gan awdur sy鈥檔 gwbl gyfarwydd a鈥檌 phwnc.
Go brin fod yna gwestiwn y byddwch yn ei ofyn nad oes ateb iddo
ar un o鈥檙 223 o ddalennau yn y llond llaw gyfforddus hwn o lyfr.
Unrhywbeth o seisus dillad i lle gallwch chwi fwyta yn y Gaiman o
sut i newid o un maes awyr i鈥檙 llall ym Muenos Aires i ble mae gweld
morloi a morfilod yn y gwyllt.
Mae鈥檙 cyfan yn gryno ac yn onest gyda rhybudd, er enghraifft,
i wylio鈥檙 prisiau rhag cael eich gwneud yn ambell i le!
Er, ni allaf yn fy myw gydweld a'r elfen o feirniadaeth yn ei sylwadau
am Westy Tywi yn Y Gaiman.
Gwir na fum yn cysgu'r nos yno ond treuliais ddigon o amser gyda'm
traed dan y bwrdd yno ac hefyd yn siarad â nifer a fu'n aros
yno - pob un yn unfryd parthed safon ragorol y ddarpariaeth.
Fel un a oedd yn paratoi i deithio i Batagonia yr union adeg hon y
llynedd dim ond un cweryl sydd gen i a gweddill cyfrol Cathrin Williams
- na fyddai hi wedi cael ei llyfr yn barod flwyddyn ynghynt.
Byddai wedi bod yn fwy na buddiol nid yn unig ar gyfer paratoi am
y daith ond yn ystod yr ymweliad hefyd.
Ac fel un sydd erbyn hyn wedi ymweld 芒 nifer o鈥檙 lleoedd y mae鈥檔 s么n
amdanynt gallaf fod yn dyst i ba mor ddibynadwy yw ei gwybodaeth.
Yn fyr: llyfr tywys gan un sy鈥檔 gwybod am beth mae鈥檔 siarad
ac sydd wedi鈥檙 profi ei hun y trafferthion sy鈥檔 debyg o wynebu ymwelwyr
â鈥檙 Wladfa - byddent dalog neu ofnus!
Y Wladfa yn dy Boced: Llyfr
Taith y Wladfa gan Cathrin Williams. Argraffwyd gan Wasg Pantycelyn.
拢5.
|
|
|