|
|
Gwefr y Corau
Corau'r
Wladfa yn dod at ei gilydd i ddathlu'r Nadolig
|
Nos
Sadwrn, Rhagfyr 23 ar S4C dangosir Nadolig y Paith. Rhaglen
gan Teliesyn yn dangos sut y daeth aelodau gwahanol gorau gannoedd
o filltiroedd oddi wrth ei gilydd yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia
ynghyd i ganu offeren go arbennig.
Yr oedd Glyn Evans o 91热爆 Cymru鈥檙 Byd yn dyst i'r digwyddiad gwefreiddiol.
Er bod y bws o Esquel awr a hanner yn hwyr yn cychwyn ar ei hwyth
awr o daith i鈥檙 Gaiman y mae pawb mewn hwyliau da.
Prin wedi cyrraedd Teka, 60 milltir i lawr y ffordd, ydym ni, ac mae鈥檙
cwpan mate yn mynd o un i鈥檙 llall a鈥檙 aelodau o G么r Esquel
yn rhannu facturas a theisennod ymhlith ei gilydd.
Wedi wythnosau o ymarfer yn lleol mae鈥檙 c么r o鈥檙 Andes ar ei ffordd
i鈥檙 Gaiman yr ochr arall i鈥檙 paith.
Yno, bydd yn ymuno â chorau eraill i鈥檞 ffilmio gan gwmni teledu
o Gymru yn canu gwaith crefyddol sy鈥檔 cael ei alw yn Misa Criolla.
Mae hwn yn ddarn sydd cyn enwoced yn yr Ariannin ag yw Meseia,
Handel, ymhlith corau Cymru.
Fel "trefniant gwerinol" o offeren y Nadolig y disgrifiodd un aelod
o鈥檙 c么r ef i mi.
Dioddefaint a dewrder yn ysbrydoliaeth
Ysbrydolwyd
y cerddor o鈥檙 Ariannin, Ariel Ramirez, i鈥檞 gyfansoddi ar 么l cael ei
ysgwyd gan yr hanes am ddewrder lleianod yn bwydo 800 o Iddewon newynnog
yn yr Almaen adeg y rhyfel gan wybod mai eu crogi fyddai eu cosb o
gael eu dal gan y Natsiaid.
"Yr oedd clywed am hyn yn gymaint o ysgytwad imi fel yr addewais i
sgrifennu rhywbeth ar gyfer y lleianod. Dyna oedd cychwyn y Misa
Criolla gyda鈥檙 g芒n gyntaf wedi ei chysegru i鈥檙 lleianod dewrion
hynny."
Er mai dim ond 2,000 o gopiau a argraffwyd yn wreiddiol gwerthwyd
15,000,000 erbyn hyn ac y mae鈥檙 Misa Criolla gyda鈥檌 rhythmau
gwerinol, i gyfeiliant gitars, charangos a bombas yn waith y mae parch
a phoblogrwydd mawr iddo yn yr Ariannin.
Yr ap锚l honno sy鈥檔 gyfrifol fod yna lond bws o aelodau C么r Esquel
ac Elda eu harweinydd yn gwibio yn awr yng ngwres yr haf 700 o gilometrau
ar draws y paith ar gyfer perfformiad unigryw o鈥檙 offeren dan arweiniad
Ramirez ei hun.
Ei hen gyfaill, y Tad Jesus Gabriel Segade, fydd meistr y c么r cyfansawdd
sy鈥檔 cynnwys 120 o aelodau hanner dwsin o gorau eraill a fydd yn canu
hefyd y Navidad Nuestra - Ein Nadolig.
Rhannu llwyfan a thenor enwog
Bu
cryn sôn a siarad ers dyddiau ynglyn 芒 rhannu llwyfan efo nhw
a thenor enwocaf yr Ariannin, Jose Cura, sydd wedi gwneud cryn enw
iddo鈥檌 hun yn Ewrop.
Yr oeddem ni awr a hanner yn hwyr yn cychwyn oherwydd bod pedwar blwch
o offer allweddol yn rhy fawr i fynd ar y bws a threfniant arall yn
gorfod cael ein wneud ar eu cyfer.
Ar ben hynny, dydi bws arferol y c么r gyda鈥檌 thy bach a鈥檌 pheiriant
coffi ddim ar gael. Ac er bod addewid o ffeirio bws hanner ffordd
am un arall mwy cyfforddus sy鈥檔 dychwelyd gyda theithwyr i Esquel;
gwrthod newid a wna鈥檙 teithwyr hynny!
Breuddwyd y ddiweddar Sh芒n Emlyn, cyn gadeirydd Cymdeithas Cymru Ariannin,
oedd ffilmio鈥檙 Misa Criolla a Mary Simmonds a Ceri Sherlock
o gwmni teledu Teliesyn sy鈥檔 llafurio ers dyddiau yng ngwres Rhagfyr
i droi鈥檙 freuddwyd yn rhaglen deledu.
Cura yn wefreiddiol
Mae
Mary Simmonds yn cyfaddef mai Domingez oedd eu dewis cyntaf o unawdydd
ond ei fod yn rhy ddrud!
Erbyn iddyn nhw weld perfformiad Cura, y mae鈥檔 nhw鈥檔 falch na allent
ei fforddio.
"Yr oedd Cura yn wefreiddiol ac fe ddaeth â rhywbeth cwbl arbennig
i鈥檙 perfformiad," meddai Mary.
Nid ei lais yw unig ap锚l pedwerydd tenor gorau鈥檙 byd gan iddo ennill
calon sawl un o ferched y c么r hefyd.
Yr siarad yn lleol yw i Cura droi ei gefn ar ei wlad ei hun ar 么l
cael ei wrthod ar gychwyn ei yrfa ym Muenos Aires.
Ac yntau, bellach, wedi gwneud enw iddo鈥檌 hun yn Ewrop mae鈥檔 destun
syndod iddo gytuno i ymweld o gwbl a thref mor ddiarffordd a鈥檙 Gaiman
i ganu gyda ch么r o amaturiaid.
Onibai ei fod yn adnabod Ramirez yn bersonol efallai na fyddai wedi
dod beth bynnag.
O ddod, mae wedi gwirioni a鈥檙 dref a sefydlwyd gan wladfawyr cynnar
o Gymry.
Mae鈥檙 perfformiad yn ddigwyddiad o bwys mawr yn lleol ond dydi pethau
ddim yn addo鈥檔 dda pan yw llwyfan a godwyd y tu allan i gapel Cymraeg
Bethel ar lan Afon Camwy yn bygwth sigo dan bwysau鈥檙 c么r yn yr ymarfer
llawn cyntaf.
Ar ben hynny, mae ambell i aelod yn grwgnach fod y disgwyliadau ymarfer
yn ormod i鈥檞 ofyn gan rai sydd ond yn gantorion amatur.
Brwdfrydedd yn heintus
Pedair awr yn ddiweddarach mae鈥檙 ysbryd yn well gyda brwdfrydedd anhygoel
Cura wedi cyffwrdd pawb.
"Hyd
yn oed wedi pedair awr o ymarfer caled yn y gwres 'na fe ddaeth pawb
oddi yno gyda gw锚n ar eu hwyneb. Yr oedd o鈥檔 ffantastig," meddai un
o鈥檙 rhai fu drwy鈥檙 drin.
"Ac mi ofynnodd o am fy rhif ff么n i," meddai merch ifanc brydweddol
o Gymru gan ofidio rhywfaint nad oedd ganddi rif i鈥檞 roi i ganwr sy鈥檔
sicr yn bishyn yn eu golwg ac sy鈥檔 ennill calon ar 么l calon gyda鈥檌
sylwadau doniol a鈥檌 ymddygiad sy鈥檔 gyfuniad ddrygioni plentynnaidd
ac athrylith cerddorol!
"Mae ganddo fo goblyn o bersonoliaeth," yw un ddedfryd. "Mae o fatha
hogyn bach drwg!"
Ond o鈥檜 cymharu a鈥檙 perfformiad ei hun dydi鈥檙 pedair awr o ymarfer
ond megis chwinciad.
Er mai am saith mae鈥檙 ffilmio i ddechrau y mae鈥檙 gynulleidfa o gant
y paratowyd lle ar ei chyfer o flaen y llwyfan yn dechrau ymgasglu
toc wedi pump. Erbyn chwarter wedi chwech, mae hanner y seddau yn
llawn a dim un ar 么l erbyn saith a phobl yn dal i gyrraedd, rhai gyda鈥檜
cadeiriau eu hunain yn eu llaw.
Chwe chant wedi dod i weld
Erbyn bod y c么r ar y llwyfan am saith mae chwe chant a mwy o bobl
yno yn disgwyl yn eiddgar yn y gwres wedi eu harfogi â hetiau
rhag yr haul ac wedi chwistrellu eu hunain rhag mosgitos ffyrnig.
"Mi fydd hi鈥檔 ffresio cyn bo hir," proffwyda gwraig leol gan
ddefnyddio鈥檙 gair Cymraeg lleol am oeri - ond mae鈥檔 anodd credu
hynny mewn gwres sy鈥檔 lladdfa i鈥檙 aelodau o鈥檙 c么r sy鈥檔 gwisgo ponchos.
Gyda鈥檙 ffilmio wedi ei drefnu i gychwyn am saith - yn unol a鈥檙 arfer
Ariannaidd mae鈥檔 cychwyn yn brydlon toc cyn wyth.
Bu鈥檙 oedi yn gyfle i Cura a鈥檙 C么r ymarfer ambell i ddarn a rhannu
ambell i j么c wrth iddo chwarae鈥檔 bryfoclyd â鈥檙 gynulleidfa.
Uwchben y c么r mae aderyn yn canu nerth esgyrn ei ben yn uchel ym mrigau
coeden. Rhwng canghennau coeden arall y mae tynnwr lluniau yr El
Chubut wedi clwydo yn chwilio am y llun gorau i鈥檞 bapur.
Ac, yn wir, mae hi yn ffresio a phobl yn dechrau tynnu eu cotiau yn
dynnach amdanynt a鈥檙 gwisgwyr ponchos yn y c么r yn diolch am gynhesrwydd
y dilledyn.
Adar yn hedfan i glwydo
Gyda lleuad crwn yn codi yn yr awyr y mae adar i鈥檞 gweld yn hedfan
i glwydo. Gwyra tair hwyaden oddi ar eu llwybr fel pe bai i gael golwg
well ar y dyrfa oddi tanynt.
Mae Cura yn ymateb gyda rhyw ffraethineb i grawc aderyn sy鈥檔 tarfu
ar gychwyn un o鈥檌 ganeuon.
Mae hi鈥檔 nos erbyn i鈥檙 c么r orffen canu a chael gwybod y bydd yn rhaid
gwneud yr un peth unwaith eto yn dilyn seibiant o hanner awr.
Er bod yr hyn a saethwyd eisoes yn "fendigedig" eglura Mary Simmonds
fod y t卯m cynhyrchu yn anelu at "berffeithrwydd".
Son am swper
Mae rhai aelodau o G么r Esquel yn dechrau s么n am swper a theithio adref
dros nos - er mwyn cael mynd i鈥檞 gwaith yfory - yn hytrach na chysgu
noson arall yn y Gaiman.
Ond mae鈥檙 cynlluniau hynny yn newid wrth i鈥檙 hanner awr droi yn awr
a phitsas ac empanadas a gwin goch yn cyrraedd Capel Bethel.
Yn 么l ar y llwyfan ar 么l bwyta y mae llawer iawn mwy o aelodau鈥檙 c么r
yn gwisgo ponchos.
"Un o鈥檙 gogledd yw hon," eglura un ohonyn nhw. "Costiodd rhyw ddau
gan peso a hanner."
Mae ambell i aelod wedi smyglo potel o vino tinto i gefn y
llwyfan ond heb ddim i dynnu鈥檙 corcyn. Dydi taro鈥檌 gwaelod yn galed
gyda chledr llaw ddim yn gweithio ychwaith.
Mae Ramirez yn taro Yesterday ar yr allweddau a Cura yn canu鈥檙
geiriau.
Mae Mary Simmonds yn galw am drefn trwy gyfieithydd.
Llai na chant o鈥檙 gynulleidfa wreiddiol sydd ar 么l erbyn hyn wedi
eu lapio鈥檔 dyn mewn cotiau trwchus rhag oerni unarddeg y nos.
Mae Cura yn cyfnewid geiriau gydag aderyn crawclyd arall a hynny,
rywsut, yn cael pethau i gychwyn eto mewn ysbryd eithriadol o dda
ymhlith cantorion sydd wedi sefyll yn hir ar lwyfan.
Cyfarwyddo'r gweithgareddau
Yn lled dywyllwch y capel y mae Ceri Sherlock a thri arall yn eu cwman
dros offer sain a sgrins yn cydgordio鈥檙 holl weithgarwch yn fyddar
i diwn y criced yn y waliau.
Mae ceisiadau Ceri, wrth iddo chwilio am berffeithrwydd mewn sain
a llun bob amser yn gwrtais wrth ofyn am ail a thrydydd wneud gwahanol
rannau.
Erbyn ei fodloni mae鈥檔 hanner nos a Ch么r Esquel wedi penderfynu mai
ei hel hi鈥檔 syth am adref fyddai鈥檙 cynllun gorau.
Ond ar gyrion Y Gaiman rhaid aros yn gyntaf am lymaid - a ch芒n coeliwch
neu beidio - yn Na Petko, a chyn bo neb yn sylweddoli bron
y mae鈥檔 bedwar o鈥檙 gloch y bore cyn bo pawb ar y bws i ddychwelyd
yn 么l dros y paith yn llawer iawn distawach nag yn ystod y daith i
lawr.
Ac na, does neb yn teimlo fel mynd i鈥檞 waith wrth ddisgyn oddi ar
y bws wyth awr yn ddiweddarach, am hanner dydd . . .
Yr oedd hynny flwyddyn union yn 么l ond yn teimlo fel ddoe a bydd canlyniad
hudolus y ffilmio yn wledd ar deledu'r Dolig yng Nghymru.
|
|
|