Å´yn bach Llanwddyn
Fe dreuliais i fore byth gofiadwy yn ddiweddar yn Llanwddyn, ar lan llyn Efyrnwy.
Ar fferm yr oeddwn i ar gyrrion y pentre, fferm sy’n perthyn i’r Gymdeithas Gwarchod Adar, lle mae Jan a’i gŵr yn croesawu plant y pentrefi cyfagos i dreulio amser efo’r anifeiliaid.
Fe ges i wahoddiad i fynd draw.oherwydd ei bod hi’n dymor wyna, ac yn wir fel y cewch chi glywed ar raglen Geraint Lloyd, bnawn fory, fe fues a phlant ysgol Pennant, yn ddigon ffodus i weld oen bach yn cael ei eni.
Beth sy’n digwydd yn eich ardal chi? Anfonwch ebost at hywel@bbc.co.uk ac fe fydda i’n falch o adael i Gymru gyfan wybod.
![Blog Hywel Gwynfryn - Llanddwyn](/staticarchive/15672cd9e0ead289324747fe0d3dc8905a2eb9fb.jpg)
Ìý
![Blog Hywel Gwynfryn - Llanddwyn](/staticarchive/df8854a8c3d34a72ba2ee6ae66044c679d46765c.jpg)
Ìý
![Blog Hywel Gwynfryn - Llanddwyn](/staticarchive/283c2e11a2d8cb19355bf0e01a025923aea2427f.jpg)
Ìý