91Èȱ¬

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Crefft y Bardd Cocos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 09:45, Dydd Mercher, 3 Awst 2011

Fe gyrhaeddodd y dilyniant yma o gerddi gystadleuaeth y Goron yn rhyw hwyr i gael eu hystyried. Ond oherwydd safon uchel y gwaith, a meisrolaeth lwyr y bardd ar rythm ac odl, penderfynwyd cyhoeddi gwaith Cocosfardd.

BAR-DDONI
Amser maith yn ôl
Roedd y frawdoliaeth farddol
Yn mwynhau alcohol
Ac yn mynd i'r dafarn i greu twrw
Ac yfad cwrw
A wedyn yn 'u medd'dod
Yn mynd i'r Steddfod.
Erbyn hyn mae na far ar y maes
Wrth ymyl y pafilion
I gyfarfod cyfeillion
Lle gewch chi sipian sauvingion,
Unrhyw 'ddrink'
Nes bydd eich wynab chi'n bink.

Cyri ar ôl y Cwrw
Wyddoch chi be' ffrindia
Mae'r bwyd o India-
Yn werth pob dima
'Nenwedig y tikka
A'r bara nan efo chytni.
Biti
Na 'does na'm Balti
Dupiaza, neu Bhuna
Hwnna
Sy'n mynd lawr fel bom
Ar ôl tair popadom.
Ond peidiwch byth a chael Madras
Neu fe fyddwch am vind- i'r- loo
Medda nhw!

Canu Corawl
Llongyfarchiada
I'r cora.
Y gora
Oedd Cor y Mochyn Du
Nhw aeth a hi
Ac nid Aber tei fi.
Ond mae nhw'n haeddu un o'r gwobra
Am ganu
Efo gwen ar 'u gwyneba
(Er fod un neu ddau yn eighty two)
'I mewn i'r Arch a nhw'
Nefi Blw!
Mi fasa Noa
Wedi licio honna.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    91Èȱ¬ iD

    Llywio drwy’r 91Èȱ¬

    91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.