Tŷ Siamas, Emyr Puw, Boccia
'Parch yw fy mhwrpas i Elis Shon Siamas
Telyniwr mawr urddas, dda fwynwas hy fedd.'
Wyddon ni ddim pwy 'sgwennodd y cwpled yna i Elis, dros dri chan mlynedd yn ôl.
Ond fe wyddon ni mai fo oedd y cerddor cyntaf i lunio telyn deires yng Nghymru.
Mae 'na sôn hefyd ei fod o'n delynor i'r Frenhines Anne. 'Sdim rhyfedd felly fod
y Ganolfan Genedlaethol i Gerddoriaeth Cymru, ar sgwâr Dolgellau, sef Tŷ Siamas wedi ei enwi ar ei ôl.
Galw heibio wnes i, i ddymuno pen-blwydd hapus i'r Ganolfan yn dair oed. Ac fe ges i groeso yno gan un o'r sylfaenwyr Ywain Myfyr, sy'n aelod o'r grŵp Gwerinos,
![](/staticarchive/aa9a86edf38bdf504bafe0dd40921270e0044e13.jpg)
Criw Tŷ Siamas, Dolgellau
Heledd sy'n gofalu am y siop, sy'n gwerthu pob math o offerynnau a cherddoriaeth gwerin, a John Cadwaladr aeth a fi o amgylch yr adeilad. Bellach mae'r ganolfan yn cynnig gwersi cerddorol i offerynwyr ifainc ac roedd Rhiain Bebb o Fachynlleth wrthi'n rhoi gwersi i delynorion y dyfodol. Felly mae ysbryd yr hen Siamas yn fyw ac yn iach.
![](/staticarchive/08806d5661c320ad919b2fcb2fd44c186049f566.jpg)
Rhiain Bebb gyda'i disgyblion yn Tŷ Siamas
Ymlaen wedyn o Ddolgellau i Dalybont yn Harlech i gyfarfod ag Emyr Puw, sydd bellach yn ei wythdegau, ond yn edrych dipyn yn 'fengach, er ei fod o wedi treulio tair blynedd, pan oedd o'n fachgen ifanc iawn mewn Sanatoriwm yn Nhalgarth, oherwydd ei fod o'n dioddef o'r dicáu, neu'r TB.
![](/staticarchive/c34087074cd3a95834f495558cc017cb971a8d91.jpg)
Emyr Puw
Yn dilyn ei arhosiad yn yr ysbyty bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth oedd yn golygu colli ysgyfant. Ac eto mae Emyr, ('gyda chymorth y wraig') wedi byw bywyd llawn a phrysur, ac mae'r blodau a'r llysiau yn deyrnged i'w waith caled rhwng y rhesi.
Enillodd fedal y BEM, pan oedd yn gweithio yn Atomfa Trawsfynydd, a'r flwyddyn nesa' fe fydd o'n dathlu'r ffaith ei fod o wedi bod yn flaenor yn ei gapel ers hanner can mlynedd. Os wyddoch chi, am rywun fel Emyr sy'n haeddu sylw a sgwrs, cysylltwch efo mi hywel@bbc.co.uk
Porthmadog oedd diwedd y daith yr wythnos yma, yng nghanolfan Glasynys yn gwylio Marcus, Mark, Ashley, Jackie a'r criw, yn chwarae gêm o'r enw Boccia.
Gêm debyg iawn i fowls ydy Boccia , ond fod y chwaraewyr yn defnyddio peli llai wedi eu gwneud o ledr, ac yn ceisio cael y peli mor agos i'r 'jack' a phosib.
![](/staticarchive/ceda72109c3df9c9265f5bdc6d4bdf87db387fdf.jpg)
Marcus, Mark, Ashley (ar y chwith) , Jackie a'r criw, yn chwarae gêm o'r enw Boccia
Eisoes mae Ashley - ar y chwith yn y llun - yn un o'r chwaraewyr gorau yng Nghymru, ac fe fydd y gêm yn cael ei chynnwys yn y Mabolgampau Paraolympaidd
yn Llundain yn 2012. Pob hwyl i ti Ashley.