91Èȱ¬

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sarah yw'r seren

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 19:00, Dydd Llun, 3 Awst 2009

Saith oed ydi Sarah Louise Davies o Synod Inn. Ond fe ges i fy synnu gan ei hagwedd broffesiynol.

Dyna le 'roedd hi'n sefyll ar ganol y llwyfan enfawr yn barod i adrodd. Yn wir 'roedd hi wedi dechra' pan glywodd hi sŵn o 'r ochr. Oedodd gan edrych i gyfeiriad y sŵn, cystal â dweud: "Fy moment fawr i ydi hon, 'newch chi fod yn ddistaw."

Yna heb frys na braw ail gychwynnodd a chwblhau'r darn heb faglu. Efallai iddi gael y drydedd wobr am adrodd ond roedd hi'n haeddu'r wobr gyntaf am ddewrder.

Da iawn Sarah.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:13 ar 4 Awst 2009, Nia Williams ysgrifennodd:

    Cytuno'n llwyr. 'Roedd Sara yn werth ei gweld gydag Anti Letty a Nia yn "browd" iawn (er ddim mor falch a Mamgu a Dadcu Ffostrasol dwi ddim yn credu!). Da iawn ti Sara. Gobeithio cawn ni'r pleser o dy weld di ar y llwyfan mawr 'na heddiw eto gyda dy ddawnsio egniol!

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    91Èȱ¬ iD

    Llywio drwy’r 91Èȱ¬

    91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.