91Èȱ¬

Archifau Ionawr 2013

Cymry a Saeson y ffin yn casglu i ddathlu'r Calan

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Elin Meredith Elin Meredith | 11:15, Dydd Iau, 17 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Y penwythnos hwn bydd cannoedd o Gymry yn casglu yng Nghas-gwent fin nos i fartsio tuag at y ffin â Lloegr â baner y Ddraig Goch yn cyhwfan uwch eu pennau.

Byddan nhw'n mynd yno'n uchel eu croch i wynebu criw o Saeson â'u hwynebau wedi eu paentio ac yn martsio dan faner San Siôr.

Ond nid ail-greu hen frwydr o'r gorffennol fyddan nhw ond cwrdd i gynnal dathliad heddychlon sydd wedi'i wreiddio mewn dau draddodiad hynafol sy'n byw ochr yn ochr ar y ffin - Y Fari Lwyd yng Nghymru a'r Wassail yn Lloegr.


Y Fari Lwyd yn yfed diod seidr y Wassail (Llun: Paul Johnson)

Dyma ddathliad blynyddol y Cyfarfyddiad ar y Bont lle mae'r Cymry a'r Saeson yn cyd-yfed, cyd-ddawnsio a chyd-ganu i ddathlu'r Flwyddyn Newydd.

Mae'r digwyddiad yn rhan o ŵyl Wassail a Mari Lwyd Cas-gwent sydd wedi ei chynnal ers saith mlynedd bellach mor agos â phosib at Nos Ystwyll, sef Ionawr 6.

Mae'r Fari Lwyd, penglog ceffyl wedi ei addurno, yn rhan bwysig o draddodiadau dathlu'r flwyddyn newydd yn Nghymru a bydd tua chwech Mari wahanol o bob rhan o Gymru yn dod i'r digwyddiad ddydd Sadwrn, Ionawr 19.

Traddodiad sy'n perthyn i ardaloedd cynhyrchu seidr de a gorllewin Lloegr yw'r 'Wassail' sef yr arfer o fendithio'r coed afalau a gofyn am gynhaeaf da yn y flwyddyn sydd i ddod.

Gallwch weld lluniau o'r digwyddiad y llynedd fan hyn.

Yn ogystal â chyfuno'r Fari a'r Wassail, mae na gymysgu a chreu pob math o draddodiadau eraill.


'Pwnco' - neu ganu'r Sosban Fach - ar risiau'r Amgueddfa (Llun: Paul Johnson)

"Dyma'r traddodiad newydd hynaf yng Nghymru!" meddai Mick Lewis, un o'r sylfaenwyr.

"Ar ôl rhannu diod y Wassail a chyfnewid baner y Ddraig Goch a baner San Siôr ar y bont," meddai Mick, "rydyn ni'n dawnsio gyda'n gilydd ac yn gwahodd y Saeson i mewn i Gymru i yfed a dawnsio.

"Mae 'na gannoedd yn dod i'r Cyfarfod ar y Bont, mae'r lle'n llawn.

"Yna rydyn ni'n arwain prosesiwn i'r Amgueddfa i ganu - neu 'pwnco' - gyda'r Fari Lwyd."

Yn draddodiadol her-ganu byrfyfyr rhwng criw y Fari a pherchennog y tŷ oedd pwnco ond mae'r criw yng Nghas-gwent yn ffafrio'r gân rygbi gyfarwydd, Sosban Fach, medd Mick.

Wedi rhoi llwnc destun i'r tÅ· bydd y dathlwyr yn mynd i fwynhau band byw a dawnsio yn nhraddodiad Gwyddelig y Ceilidh.

Mae'r dathliadau'n gymysgedd o rialtwch, cyflwyno dramâu, dawnsio, canu a dathlu ac eleni, mae'r Dyn Gwyrdd yno hefyd sy'n cael ei gysylltu'n bennaf â'r Gwanwyn.


Mae sawl math gwahanol o benglog ceffyl o bob rhan o Gymru a Lloegr yn ymddangos yn y dathliadau (Llun: Paul Johnson)

Cafodd Mick a'i gyfaill Tim Ryan help ariannol gan y Llywodraeth drwy Trac Cymru i adfywio traddodiad y Fari Lwyd yng Nghas-gwent yn wreiddiol. Er fod Trac Cymru bellach yn cynnig Mari Lwyd 'flat pack' aeth Mick ati i baratoi penglog ceffyl yn y ffordd draddodiadol a'i gosod ar bicwarch drwy ddarllen hen gofnodion a llyfrau.

Yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r digwyddiad yng Nghas-gwent ydy'r Dawnswyr Morris 'Cymreig' lleol, y Widders - criw o ffrindiau a chyn feicwyr sy'n dawnsio Morris ac yn gwisgo dillad rhacsiog, het uchel ac yn paentio eu wynebau'n ddu. Maen nhw'n cyd-drefnu'r diwrnod ac yn rhan fawr ohono.

Daeth y syniad o gyd-ddathlu gyda'r Saeson pan sylwon nhw ar y coelcerthi a'r dathliadau Wassail ar ochr arall yr afon a'u gwahodd i ymuno â nhw gan fynd ati i'w gwneud yn ŵyl flynyddol.

Un peth diddorol mae'r ŵyl yn ei amlygu ydy fod 'na draddodiadau gwahanol yn ymwneud â phenglog ceffyl yn perthyn i rannau o Loegr a thu hwnt hefyd, fel yr Obby Oss yng Nghernyw, y Laare Vane (Y Gaseg Wen) o Ynys Manaw a'r Poor Awd Oss o Ogledd Lloegr sy'n gwneud ymddangosiad yn yr ŵyl hon.

Mae gwreiddiau'r symbol hwn yn ddwfn mewn arferion hynafol o'r cyfnod cyn-Gristnogol ac, yn ôl rhai, yn adlewyrchiad o'r cyfnod pan ddaeth y ceffyl yn anifail mor werthfawr i ddyn. Cred eraill ei fod yn gysylltiedig â chwedl Rhiannon yn y Mabinogi neu â seremonïau ffrwythlondeb.

Syllu ar y sêr

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Sioned Clwyd | 14:06, Dydd Gwener, 11 Ionawr 2013

Sylwadau (0)

Ydych chi byth yn edrych i fyny ar yr awyr dywyll uwchben, i weld y cyfoeth o sêr yn y duwch? Os ddim, dyma'r amser i ddechrau!

Mae hi'n gyfnod Stargazing ac felly yr amser perffaith i ddysgu sut mae astudio awyr y nos.

Sêr dros Gwm Idwal gan Kristofer Williams

Efallai eich bod chi wedi gwylio rhaglenni Stargazing ar 91Èȱ¬2 yr wythnos yma ac wedi cael eich ysbrydoli i fynd allan ac edrych i fyny eich hun, er mwyn gweld rhyfeddodau fel y lluniau sydd i'w gweld ar wefan Stargazing LIVE fan hyn.

Rhai tips i'ch rhoi chi ar ben ffordd:


  1. Ewch oddi wrth oleuadau adeiladau/goleuadau stryd ar noson glir gyda thywydd da. Mae'r lleuad llawn hefyd yn gallu cuddio llawer o sêr, felly noson pan nad yw'r lleuad yn dangos sydd orau.

  2. Defnyddiwch fap o'r sêr fel yr un sydd yng

  3. Mae cwmpas yn gallu bod yn ddefnyddiol, er mwyn ffeindio'r Gogledd a gwneud adnabod sêr yn haws.

  4. Ewch gyda ffrindiau, neu ymunwch â chlwb seryddiaeth lleol.

  5. Gall camera fod yn ddefnyddiol - dydych chi byth yn gwybod be welwch chi.

Does dim rhaid i chi fynd i wylio'r sêr ar eich pen eich hun gan fod sawl digwyddiad ar draws Cymru y penwythnos yma ac yn ystod yr wythnos i ddod, a dyma rai ohonyn nhw:

Hwlffordd
Nos Wener Ionawr 11: Gwylio'r sêr yn y Preseli, 7 - 10pm
/thingstodo/activity/stargazing-live-in-preseli/occurrence/211830

Bro Morgannwg
Nos Sadwrn Ionawr 12: Gwylio'r Sêr yn Gerddi Dyffryn, 7 - 9pm
/thingstodo/activity/stargazing-at-a-dark-national-trust-garden/occurrence/215962

Caerdydd
Dydd Sadwrn Ionawr 12: Diwrnod Stargazing i'r teulu yn yr Amgueddfa Genedlaethol, 11am - 4pm

Pen-y-bont ar Ogwr
Nos Fercher Ionawr 16: Noson gyda'r sêr yn Ysgol Gyfun Bryntirion, 5 - 9pm
/thingstodo/activity/a-night-among-the-stars/occurrence/228490

Abertawe
Nos Wener Ionawr 18: Noson o wylio'r sêr yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 7pm

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.