91热爆

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

'Tynged' yn glasur

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 09:42, Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2012

Efallai ichi sylwi dros y dyddiau diwethaf ar ambell i gyfeiriad at y ffaith ei bod hi yn hanner can mlynedd union ers i Saunders Lewis draddodi ei ddarlith, Tynged yr Iaith.

Diddorol sylwi mai s么n am 鈥nodi鈥 neu 鈥驳辞蹿苍辞诲颈鈥檙鈥 digwyddiad a wneir yn hytrach na鈥檌 鈥ddathlu鈥 ac fel rhan o鈥檙 nodi hwnnw mae wedi cyhoeddi argraffiad Rhwymiad cain o鈥檙 ddarlith mewn cydweithrediad 芒 .

Dyma鈥檙 gyfrol ddiweddaraf yng nghyfres 鈥渃lasuron鈥 y Wasg gan ddilyn yn 么l troed Dail Pren Waldo Williams a Cherddi, T H Parry-Williams.

Yn ffodus, mae鈥檔 fwy nag ailargraffiad moel o鈥檙 ddarlith ac yn cynnwyshefyd ragymadrodd craff a threiddgar gan Ned Thomas, rhagair gan Meredydd Evans, rhagair gan Karl Davies i drydydd argraffiad a gyhoeddwyd yn 1985 a rhagair gan Saunders Lewis ei hun i ail argraffiad a gyhoeddwydyn 1972.

I gloi鈥檙 gyfrol mae sgript sgwrsa recordiwyd rhwng Saunders Lewis a Meirion Edwards a ddarlledwyd fis Hydref 1968 ac a gyhoeddwyd wedyn yn rhifyn Rhagfyr y flwyddyn honno o Barn.

Basgedaid ddifyr o 80 o ddalennau.

Yn ei ragymadrodd mae Ned Thomas yn ein hatgoffa mai ymdrech bwrpasol oedd y ddarlith i ddylanwadu ar Blaid Cymru i newid ei chyfeiriad a鈥檌 dulliau gweithredu ac mae鈥檔 cofnodi ymateb Gwynfor Evans mai 鈥減rysuro鈥檙 diwedd a wn芒i dulliau chwyldroadol fel polisi yn ein sefyllfa anchwyldroadol ni, o leiaf pe鈥檜 mabwysiedid gan Blaid Cymru鈥.

Fe鈥檔 hatgoffir hefyd o鈥檙 argraff a wnaeth safiad teulu鈥檙 Beasleys o Langennech ar Saunders Lewis ei hun a鈥檙 parch oedd ganddo iddynt.

Mae Ned Thomas yn camu 鈥檓laen wedyn i fynd i鈥檙 afael ag arwyddoc芒d y ddarlith i ni heddiw hanner canrif wedi ei thraddodi gan ddadlau nad fel clasur marw y mae鈥檔 perthyn inni 鈥渙nd fel testunsydd ar gael i ni yn y presennol: i ddethol ohono, i鈥檞 ddehongli, i鈥檞 wrthod yn rhannol neu鈥檔 gyfan gwbl鈥.

Meddai: 鈥淢i fydd yn glasur byw os bydd yn ysgogi trafodaeth bellach a gweithredu pellach. Y deyrnged orau i awdur y ddarlith fydd inni fod mor onest ag y gallwn wrth ei thrafod.鈥

Mae鈥檔 nodi tri phwnc yn y ddarlith 鈥渟ydd i mi yn dal i bigo鈥檙 gydwybod a herio鈥檙 deall鈥.

Mae hyn oll yn ei arwain at y casgliad bod adennill iaith yn dibynnu ar yr hyn y mae鈥檔 ei alw yn 鈥渄deinameg gyson a chynyddol鈥 sy鈥檔 gofyn am newid a sefydliadau 鈥 a鈥檙 cwestiwn amlwg sy鈥檔 codi wedyn yw, wrth gwrs,

鈥淵dy鈥檙 amgylchiadau gwleidyddol a鈥檙 ewyllys wleidyddol yn bodoli yng Nghymru i greu鈥檙 ddeinameg honno?鈥

Dywed: 鈥淥ni welir bod mwy a mwy o gyfle i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg mewn mwy a mwy o feysydd, mi fydd iaith a ddysgwyd yn yr ysgol yn aros i lawer yn iaith gefndir ac yn symbol cenedlaethol . . . [yn] flag language.

Mae鈥檔 cloi gyda rhybudd o bwysigrwydd 鈥渕amwlad鈥 neu 鈥hinterland鈥 Gymraeg 鈥 yn ychwanegol at bresenoldeb lleiafrif Cymraeg yn y brifddinas a chanolfannau grym - i barhad yr iaith ac fel modd i ddysgu鈥檙 Cymry Cymraeg i feddwl amdanynt eu hunain a threfnu eu hunain fel un gr诺p ieithyddol.

  • Cyhoeddir Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis, Rhagymadrodd gan Ned Thomas,gan Wasg Gomer. 拢7.99. 80 tudalen.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.