91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wythnos galar a streic

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 11:15, Dydd Gwener, 2 Rhagfyr 2011

Wythnos arall ddyfyniadau - dyma ddetholiad. Mae croeso ichi ychwanegu atyn nhw . . .

  • Yr oedd o yna i bawb. Yna, yn ei awr dduaf, pan drawodd y gwaelod isaf fel ei fod eisiau cymryd ei fywyd ei hun - o na fyddai un ohonom wedi medru bod yno iddo ef - John Hartson am Gary Speed yn y 'Western Mail' ddydd Iau.
  • Fe fydd yna ddigon o ddagrau ddydd Sadwrn rwy'n siŵr - Christine Williams, mam Shane, yn edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Awstralia yfory.
  • Da bo ti Shane - bu'n bleser pur. Fyddi di byth yn cael dy anghofio a dydw i ddim yn credu y gwelwn dy debyg eto - Barry John yn y 'Wales on Sunday'.
  • Doeddwn i ddim wedi bwriadu am eiliad i'r sylwadau hyn gael eu cymryd o ddifrif - Jeremy Clarkson yn ymateb i'w sylwadau ar 'The One Show' yn dilyn streic dydd Mercher. "Fe fyddwn i'n eu saethu i gyd. Fe fyddwn yn mynd â nhw allan a'u saethu gerbron eu teuuoedd," meddai gan beri 4,700 o gwynion gan wylwyr.
  • 90,000 - maint y golled a wnaeth Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, fis Awst.
  • Mae pobl Aberteifi a masnachwyr y dre yn meddwl ei bod hi'n bwysig cael goleuadau Nadolig - Paul Oakley, Cadeirydd Siambr Fasnach Aberteifi, yn croesawu dychweliad goleuadau Nadolig i'r dref.
  • Un cylchgrawn yn dweud mai Boris Johnson yw dyn mwyaf dylanwadol y Deyrnas Unedig. Guto Harri wedi gwneud ei waith yn iawn, felly - Madog Mwyn yn
  • Efallai y dylem ddilyn esiampl yr Albanwyr a'r Gwyddeolod a sefydlu elusen ein hunain i fynd i'r afael â holl ofynion ac anghenion plant Cymru - Nici Siôn o Fethesda o'r farn, mewn llythyr yn 'Y Cymro' fod Cymru yn haeddu gwell na'r NSPCC.
  • Roedd y criw i gyd yn llysgenhadon gwych tros eu gwlad. Siom, fodd bynnag, yw bod cyn lleied o sylw i hyn oll yn y cyfryngau yng Nghymru - Pedr Wynn mewn llythyr yn 'Y Cymro' wedi ei blesio gan weithgarwch aelodau o'r Urdd ym Mhatagonia.
  • Slashed Wrists this Christmas - un o'r caneuon ar EP Nadolig wahanol y Super Furry Animals, Atheist Xmas.
  • Pan briododd merch y tÅ· fe wnaethon nhw rostio eidion i'r pentrefwyr - Y Parchedig Geraint Hughes, hanesydd leol, yn sôn am ddigwyddiadau ar ystad Penybont Hall, Maesyfed, y dywedir sy'n sylfaen i'r gyfres deledu Downtown Abbey. Yn ôl y 'Wales on Sunday' yr oedd nain yr awdur, Julian Fellowes, yn forwyn yno.
  • Mi fasa'n braf meddwl y gallai rhaglenni o'r Eisteddfod gael eu dangos trwy'r hydref a'r gaeaf, fel bod mwy o bobol yn cael cyfle i'w mwynhau - Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn gofidio fod mynychwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn colli rhaglenni teledu o'r Steddfod.
  • Bwytewch yn araf gan roi'r gorau iddi cyn ichi deimlo'n llawn - Un o gynghorion y 'Wales on Sunday' ar gyfer colli pwysau ar gyfr y Nadolig. Dywed fod pobl dewion yn dueddol o lowcio eu bwyd.
  • Llwyddodd i gyfleu neges glir er iddo golli ei lais - Huw Edwards am anerchiad yr Archdderwydd, T James Jones, yng Nghymanfa Ganu Undebol Llundain mewn adroddiad yn y wasg enwadol.
  • Y peth gorau yw y ffordd mae pobl yn edrych arnaf. All pobl ddim credu'r peth pan maen nhw'n fy ngweld i - Joseff Edwards, disgybl Chweched Dosbarth ynYsgol Dyffryn Taf, Hendy-gwyn, sydd hefyd ybn gyrru bws 54-sedd i gludo plant eraill i'r ysgol. "Rwyf wrth fy modd gyrru'r bws. Mae'n hwyl go iawn - llawer gwell na'r car," meddai.
  • Rwy'n credu y byddai creu adnoddau addysgiadol ar gyfer plant Cymru i amlygu effaith ofnadwy rhyfel, ffasgaeth, ac anoddefgarwch yn ddefnydd addas yr arian hwn - Huw Lewis AC, y Gweinidog Treftadaeth, yn ymateb i rodd o £300,000 a dderbyniodd y Llyfrgell Genedlaethol gan ddyn a fu'n gwasanaethu gyda'r SS yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
  • Does wybod pam ond y mae'r rhan fwyaf o bobl yn y Deyrnas Unedig yn teimlo'n reit hapus - Pennawd yn y 'Western Mail' heddiw yn dilyn cyhoeddiad y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol i 76% o bobl roi marc o saith allan o ddeg iddynt eu hunain wrth fesur eu hapusrwydd.
  • £30 miliwn - cost dybiedig achos Lynette White a ddaeth i ben mor ddirybudd ddoe.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.