Tannau Tynion - adolygiad o'r hunangofiant
Fedra i ddim honni mod i yn adnabod Elinor Bennett Wigley yn dda. Eto, pan ddigwydd inni daro ar ein gilydd mewn Steddfod neu gaffi tua Machynlleth ar ein gwahanol ffyrdd rhwng de a gogledd, mae gw锚n gynnes a 鈥淪ut wyt ti?鈥 serchog ganddi bob amser.
听
Cofiwn ei thad yn dda, gwyddwn am ei doniau cerddorol a鈥檌 bod yn wraig i Ddafydd Wigley.听 Gwyddwn ychydig am dristwch hanes eu meibion hynaf, Alun a Geraint, a anwyd gyda鈥檙 afiechyd dieflig Sanfilippo ac am farwolaeth y ddau yn eu harddegau cynnar wedi oes fer o ddirywiad cyflym.
听
Rhoddir lle amlwg i鈥檙 cyfnod dirdynnol hwnnw yn ei chyfrol Tannau Tynion, y gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres y Cewri, Gwasg Gwynedd.听 Cawn beth syniad o faint y dioddef o brofodd o ddarganfod natur y salwch, ergyd fuasai wedi llorio鈥檙 rhan fwyaf ohonom.听
听
Cawsant y newydd pan oedd Dafydd ar gychwyn ymgyrch etholiadol yn Arfon 鈥 ymgyrch lwyddiannus fyddai鈥檔 golygu y byddai鈥檔 treulio llawer o鈥檌 fywyd yn Llundain.听 Profiad poenus tu hwnt i amgyffred ac a gadwyd yn gyfrinach am ysbaid go dda.听 Mae鈥檙 pwysau i鈥檞 deimlo鈥檔 yr ysgrifennu.
听
Un peth a gaf yn feichus mewn cyfrolau hunangofiannol yw鈥檙 duedd i gychwyn drwy hel achau鈥檙 teulu.听 Ar y cyfan dydyn nhw o ddiddordeb i neb ond yr awdur a鈥檌 berthnasau agos.
听
Ond mae hanes teulu Elinor yn ddiddorol a dadlennol.听 Hen ewythr iddi oedd y casglwr alawon gwerin, Nicholas Bennett, a hen, hen, ewythr arall iddo oedd Ceiriog.听 Am linach!听 A diddorol canfod o ble daeth yr enwau Seisnig fel Bennett, Wigley, Cleaton ac Ingram sy鈥檔 frith yn ardal Llanidloes.
听
Diddorol hefyd dysgu am ran Cyngor Dosbarth Penllyn 鈥 a鈥檌 thad, Emrys Bennett Owen - yn y frwydr i achub Tryweryn.听 Mae gwybodaeth fel yna o werth hanesyddol.
听
Yr oedd ganddi awydd mynd yn gyfreithwraig ac ar 么l graddio yn y gyfraith yn Aberystwyth a chafodd ysbaid yng ngholeg y gyfraith Guildford ond rhoes y gorau i鈥檙 syniad a mynd i鈥檙 Academi Gerdd Frenhinol.听 Mae hanes ei gyrfa ddisglair fel telynores o statws rhyngwladol yn gyffrous ac fe鈥檌 hadroddir gydag afiaith byrlymus.
听
Cawn ein tywys i mewn ac allan o鈥檌 gyrfa gerddorol drwy鈥檙 gyfrol.听 Daw ei blynyddoedd fel mam i bedwar o blant i dorri ar ei gwaith fel telynores.听 Diddorol darllen iddi gael cyngor i beidio defnyddio鈥檌 henw priod yn broffesiynol gan fod priodasau cerddorion yn dueddol o chwalu!听 Mantais yr enw Bennett yw ei fod yn dod yn gynnar yn y wyddor!
听
Daeth ysfa Dafydd Wigley i ddychwelyd i Gymru ac i听 weithio i gwmni Hoover ym Merthyr a鈥檙 ddau yn 么l i Gymru ac i fwrlwm gwleidyddiaeth leol.听 Cafodd y ddau ei hethol ar Gyngor Merthyr a cheir hanes y frwydr i sefydlu Ysgol Gymraeg yn y dref 鈥 brwydr galed gyda鈥檙 enwog a gelynieithus John Beale yn Gyfarwyddwr Addysg yno.
听
听Bu peth gwelliant oddi ar hynny, er mai dim ond dwy ysgol gynradd Gymraeg sy鈥檔 y fwrdeisdref o hyd, ac un ohonyn nhw鈥檔 enfawr gyda tua 600 o ddisgyblion.
听
Wedi marw Alun a Geraint dychwelodd i wneud mwy o berfformio, dysgu telynorion ifainc ac ymddiddori ym maes therapi cerdd.听 Gydag egni a brwdfrydedd rhyfeddol trodd i faes gweinyddu, comisiynu cerddoriaeth i鈥檙 Delyn, sefydlu Canolfan Gerdd William Mathias, cyhoeddi 鈥 a thrwy鈥檙 cyfan i gyd drysori鈥檔 hetifeddiaeth.听
听
Mae鈥檔 gresynu, er hynny am ddiffyg mentergarwch ei chyd gerddorion a鈥檜 dibyniaeth ar grantiau.听 Dywed hefyd fod yn rhaid cadw gwleidyddion ymhell oddi wrth benderfyniadau artistig.听
听
Mae yna stori ddiddorol yngl欧n 芒 fel y bu i Dafydd Wigley roi鈥檙 gorau i arweinyddiaeth y Blaid yn y Cynulliad.听
听
Addawodd Ieuan Wyn Jones, meddai, mai tros dro y byddai ef yn arweinydd - nes adfer iechyd Dafydd.听 Pan ddychwelodd, er hynny, gwelwyd fod pethau wedi newid ac y mae鈥檔 sicr y bu i rai aelodau fanteisio ar ei wendid.
听
A phan benderfynodd geisio dychwelyd i鈥檙 Cynulliad yn 2007 drwy gyfrwng rhestr Gogledd Cymru, dim ond ail oedd ef ar restr Plaid Cymru a chollodd Cymru 鈥渦n o鈥檌 gwleidyddion grymusaf a mwyaf carismataidd鈥.听
Elinor sy鈥檔 dweud 鈥 a wna i ddim anghytuno.
听
Mae yna ddigon o bytiau blasus i鈥檆h goglais.听 Fel y bu iddi hybu carwriaeth R S Thomas a鈥檌 ddarpar ail wraig; darganfod Catrin Finch a ddaeth flynyddoedd wedyn yn ferch-yng-nghyfraith iddi; a pherswadio鈥檙 Tywysog Siarl i gael telynor neu delynores swyddogol.
听
Cyfrol ddifyr, hwyliog a phleserus sy鈥檔 werth ei darllen.听 Cyfrol y dylem ei darllen.
听