91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mererid Hopwood - Straeon o'r Mabinogi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Blogiwr Gwadd | 11:08, Dydd Mawrth, 6 Rhagfyr 2011

Mae addasiad newydd Mererid Hopwood o straeon o'r Mabinogi wedi ennill calon ein hadolygydd. Bydd yn ei ailddarllen sawl tro meddai wrth ei argymell i eraill.

Dyma sydd ganddi i'w ddweud:

Adolygiad Alaw Mia o Straeon o’r Mabinogi gan
Mererid Hopwood. Lluniau ganÌýÌýBrett Breckon. .Ìý£9.99.

O edrych ar glawr y llyfr ro’n i’n disgwyl stori hir, ddiflas, anodd ei darllen ond erbyn gorffen y straeon mae fy marn wedi newid.

Cyn darllen y llyfr hwn doedd gen i ddim diddordeb yn y Mabinogi a’r unig straeon roeddwn i’n gwybod amdanynt oedd un Branwen ac un ÌýBlodeuwedd.

Nawr mae fy niddordeb yn y straeon traddodiadol yma wedi tyfu.

Enw’r pedair chwedl yw Pwyll a Rhiannon,Ìý Branwen, Pryderi a Blodeuwedd.Ìý

Pwyll

Yn chwedl Pwyll a Rhiannon y prif gymeriadau yw . . ., wel Pwyll a Rhiannon wrth gwrs!Ìý

Mae Pwyll yn eistedd ar fryn ac yn gweld y ferch berta yn y wlad (Rhiannon) ac yn anfon caethwas ar ei hôl Ìýond mae’r caethwas yn methu dal y ferch dlos i ofyn ei henw.ÌýÌý

Aiff yn ôl at Pwyll ond mae hwnnw yn ei orfodi i farchogaeth ar ôl y ferch hardd eto drennydd.Ìý Yn dilyn methiant yÌý caethwas eto, mae Pwyll yn penderfynu trïo ei hun.Ìý Tybed a all Pwyll ddal sylw yr ferch anhygoel?Ìý

Branwen

Yr ail chwedl yw chwedl Branwen a phrif gymeriad y stori hon yw ... ie, Branwen!

ÌýMae Branwen, chwaer fach Bendigeidfran ac Efnisien, yn trefnu priodi Matholwch, Brenin Iwerddon.Ìý Er bod Bendigeidfran yn rhoi ei ganiatâd mae Efnisien yn digio am oes neb wedi gofyn ei farn ef.Ìý

Mae’n dial ar Fatholwch gan niweidio ei geffylau ond mae Bendigeidfran yn ymddiheuro i Fatholwch trwy roi anrhegion iddo.Ìý Aiff y briodas yn ei blaen a phawb (ond Efnisien) yn hapus.Ìý

Pan ddychwela’r cwpwl i deyrnas Matholwch yn Iwerddon mae popeth yn mynd o chwith i Branwen.Ìý All Bendigeidfran ddod i achub Branwen o’r carchar mae Matholwch wedi ei chloi hi ynddo?Ìý

Pa bris fydd yn rhaid iddo’i dalu i achub ei chwaer fach?Ìý

Pryderi

Chwedl Pryderi yw’r drydedd a’rÌý prif gymeriadau yw Pryderi, Rhiannon, Manawydan a Dyfed.Ìý

Yn y chwedl yma mae dau gwpwl priod sydd yn ffrindiau agos.Ìý (Mae Rhiannon wedi priodi Manawydan ar ôl i Pwyll farw)ÌýÌý Mae rhyw swyn gas yn disgyn ar eu teyrnas a nhw yw’r unig fodau sy ar ôl - dim coed, anifeiliaid, planhigion na phobl na dim.Ìý

Wedi dwy flynedd maen nhw’n blino chwilio am fywyd a felly maen nhw’n symud i Loegr lle mae Manawydan a Phryderi yn dechrau lot o fusnesau mewn llawer o drefi bach, ond heb ddod o hyd i heddwch.Ìý

ÌýRhaid iddynt symud yn gyflym o bob tre achos mae dynion eraill yn genfigennus o’u doniau.Ìý Dychwelant i Gymru ond mae Pryderi a Rhiannon yn diflannu a rhaid talu pris drud i’w cael yn ôl.

Blodeuwedd

Chwedl Blodeuwedd yw’r bedwaredd.Ìý Chwedl am fam greulon yn addo na fydd hi byth yn rhoi enw, nac arfau na gadael i’w mab gael gwraig arferol fel pawb arall.Ìý

Felly mae Lleu a’i ffrind – Gwydion y dewin, yn cynllwynio i dwyllo Arianrhod, y fam,Ìý i roi enw i’w mab sef Lleu Llaw Gyffes a rhoi arfau iddo.Ìý

Dyw Lleu a Gwydion ddim yn siŵr beth i’w wneud am y felltith olaf felly mae Gwydion yn siarad a’i ffrind - dewin arall wrth gwrs - sef Math.Ìý

Mae’r ddau yn casglu blodau a chydag ychydig bach o swyn, maent yn troi’r blodau hardd fewn i fenyw brydferth o’r enw Blodeuwedd.Ìý

Pwy fuasa’n meddwl gallai menyw o flodau dorri calonnau?

Yn fy marn i mae’r ffordd mae’r chwedlau yma wedi’u hysgrifennu yn ffantastig!Ìý A mae’r lluniau gan Brett Brecon yn cyfrannu at ddiddordeb a dirgelwch y llyfr.Ìý

Dwi wedi mwynhau’r llyfr yma’n fawr ac fe fydda i’n ei argymell i bawb!Ìý

Mae’n addas i bob oed; yn addas fel stori cyn gwely i blant bach neu stori i ladd amser i unrhyw un arall!

ÌýDyma un o fy hoff gasgliad o straeon a byddaf yn ei ailddarllen sawl tro dwi’n meddwl.Ìý Darllena fe nawr!

Alaw Mia

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.