Dyn pob iaith
Cymro oedd o a gafodd ei ddisgrifio fel un a siaradai iaith pawb - ond ei iaith ei hun.
Un â'i wreiddiau ym Môn oedd Syr William Jones ac yn fab i William Jones arall; y mathemategwr a roddodd gychwyn ar yr arfer o ddefnyddio'r llythyren Groeg π pi mewn perthynas â chylchoedd ac a oedd yn gyfeillgar â Halley a Newton.
Yr oedd hwnnw yn ffrindiau a Morysiaid Môn a oedd yn cyfeirio ato wrth y llysenw Pabo oherwydd, er wedi ei eni yn y Merddyn , Llanfihangel Tre'r Beirdd, y tyddyn nesaf at y Fferem , lle ganwyd y Morysiaid, symudodd y teulu i Dyddyn Bach, Llanbabo.
Yr oedd yn berson hynod ac y mae llyfr yn y Saesneg newydd ei gyhoeddi amdano, Orientalist Jones gan Michael J Franklin (Gwag Prifysgol Rhydychen. £35.)
Yn ifanc iawn dysgodd William Jones Roeg, Lladin, Persieg, Arabeg a Hebraeg yn drwyadl ac yr oedd ganddo grap hefyd sgrifen Chineaeg.
Erbyn diwedd ei fywyd yr oedd yh rhugl mewn 13 o ieithoedd ac yn gyfforddus gyda 28 arall.
Ond doedd y Gymraeg ddim yn un o'i ieithoedd. Yn wir, cwbl Seisnig oedd ei fagwraeth, ac er y gallai ddarllen rhywfaint o Gymraeg doedd o ddim yn ei siarad a hynny a barodd i lysgennad Prydain ym Mharis ei gyflwyno i frenin Ffrainc fel "gŵr sy'n medru pob iaith ond ei iaith ei hun!"
Nid dyna ei unig hynodrwydd wrth gwrs fel y dengys llyfr Franklin sy'n dyfynnu'r enwog Dr Johnson yn ei ddisgrifio fel "y mwyaf goleuedig o feibion dynion".
Ef fu'n gyfrifol am y cysyniad Indo-Ewropeaiodd o berthynas ieithoedd ac ef sefydlodd yr Asiatic Society.
Bu farw yn Calcutta Ebrill 27, 1794, ond yn 47 oed a'i gladdu mewn bedd mawreddog yno.
Ella pe byddai o wedi cael byw yn hwy y byddai wedi dysgu Cymraeg oherwydd ar wefan y cyfeirir at Angharad Llwyd yn dyfynnu o lythyr ganddo at Richard Morris yn 1790 yn tystio, "er ei fod ef, fel Cymmrodor, yn wresog ei ddiddordeb yn hynafiaethau a llenyddiaeth Cymru, eto nad oedd ganddo funud o amser i'w sbario atynt".