91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O'r Steddfod i'r Senedd?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:01, Dydd Llun, 1 Awst 2011

Wrth i Steddfod arall gael gwynt dan ei hadenydd mae rhywun yn darllen yn y cylchgrawn WA-w! sydd ar werth ar y Maes beth oedd Prif Weithredwr yr Wyl - Y Mr Steddfod ei hun, Elfed Roberts - yn ei wneud mewn oes arall.

Clawr WA-w!

Cyn dod yn drefnydd Steddfod mi fuo fo yn ohebydd gyda phapurau'r Herald yng Nghaernarfon - a gwell 'datgan diddordeb' yn fama gan i'n gyrfaoedd ni'n dau orgyffwrdd y cyfnod hwnnw mewn swyddfa nad oedd wedi llwyr adael y bedwaredd ganrif ar bymtheg!

Oddi ynio aeth Elfed i werthu bwydydd anifeiliaid i ffermwyr Mon ac Arfon gan fentro wedyn i faes trefnu Steddfodau - gyda'r Urdd i gychwyn cyn cael swydd gyda'r Eisteddfod Genedlaethol wedyn.

Gyrfa ddigon amrywiol - ond nid cweit digon amrywiol gan Elfed mae'n ymddangos achos pan ofynnodd WA-w! iddo pa swydd arall y byddai wedi hoffi rhoi cynnig arni ei ateb oedd "Prif Weinidog Cymru".

Ac wrth gwrs mae amser i hynny ddigwydd hefyd - ond y bydd yn rhaid disgwyl pedair blynedd dda tan yr etholiad nesaf.

Ond mi allwn ni ddechrau dychmygu'n awr y Cynulliad yn cael ei redeg fel Steddfod.

A'r eitem gyntaf ar yr agenda?
"I ystyried peintio adeilad y Senedd yn y Bae - yn binc."

Hei lwc Elfed.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.