91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Eisteddfod Nia Lloyd Jones - dydd Mawrth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 10:43, Dydd Mercher, 3 Awst 2011

Mae Nia Lloyd Jones, 91Èȱ¬ Radio Cymru, yn blogio o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 bob dydd.

Un teulu sydd wedi bod yn brysur iawn ar y llwyfan yr wythnos yma ydi teulu Rhys Meirion.

Roedd Rhys ei hun yn canu hefo'r ddau denor arall yn y cyngerdd agoriadol nos Wener.

Dydd Sadwrn roedd ei wraig, Nia, yn canu hefo Côr Rhuthun; wedyn ddydd Sul roedd Erin, y ferch ieuengaf, ar y llwyfan, a heddiw tro Elan oedd hi.

Ond mae un aelod bach arall yn y teulu hwn - Osian y mab hynaf.

Rŵan ta, y tro diwethaf imi afael yn dynn yn Osian oedd nôl yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr yn Llandeilo yn 1996.

Babi bach tri mis oed oedd Osian yr adeg honno a finna yn ei warchod tra roedd ei fam yn mynd i wrando ar ei dad yn cystadlu - ac yn ennill - ar y Rhuban Glas.

Felly dyma holi pam nad oedd o'n cystadlu ac yn fonheddig iawn yr ateb ges i oedd ei fod i isio rhoi cyfle i bawb arall!


Unawd Merched

Cystadlu ar yr unawd i ferched dan 19 oed oedd Lisa Medi heddiw, ond flwyddyn nesaf fe fydd ganddi wythnos brysur iawn o'i blaen hi yn yr Eisteddfod gan mai hi fydd merch y fro.

Oeddech chi'n sylweddoli mai cyfrifoldeb merch y fro - neu yn yr achos yma, mam merch y fro - ydi casglu'r blodau ar gyfer eu cyflwyno i'r Archdderwydd yn y seremonïau?

Mae'n debyg i fam Lisa fod yn casglu'r blodau ben bore ar gyfer yr ŵyl gyhoeddi yn ddiweddar yn Y Barri, ac wedi cael cwmni'r heddlu hefyd - oedd yn awyddus i gael gwybod be'n union oedd hi'n ei wneud!

Braf iawn oedd gweld dau o gorau pensiynwyr gefn llwyfan amser cinio. Ges i air hefo Gareth Hughes sydd yn cadw tafarn y Mochyn Du yng Nghaerdydd ac er mwyn cadw'r ddysgl yn wastad mi es i chwilio am Gôr Aberteifi.

Pwy oedd yn gwenu fel giât o fy mlaen ond Peter John o Grymych, aelod o'r côr - yn ei dei llachar du a gwyrdd.

Mae hon yn gystadleuaeth bwysig ac yn ogystal â theimlo gwres y llwyfan roedd hi'n amlwg ei bod hi'n poethi rhwng y ddau gôr hefyd.

Ond Côr y Mochyn Du enillodd am yr ail flwyddyn yn olynol a llongyfarchiadau mawr iawn iddyn nhw.

Y tri ar y llwyfan ar gyfer yr unawd o oratorio neu offeren dan 25 oed oedd Huw Ynyr Evans, Meilir Jones ac Ellen Williams.

Mae Ellen ar fin mynd draw i Sbaen am flwyddyn a Meilir yn astudio yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.

Mae Huw Ynyr yn astudio Cerdd ym Mangor a'r wythnos yma mae ganddo droed mewn sawl cae cerddorol.

Yn ogystal â bod yn denor talentog iawn, roedd o neithiwr yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau - Maes B - hefo'r band o Ddolgellau - Tswnami.

A fyddai hi ddim yn steddfod heb imi gael gair hefo Steffan Rhys Hughes na fyddai. Daeth i'r brig unwaith eto eleni - ar yr unawd gerdd dant a'r llefaru o'r Ysgrythur a thebyg y bydd o nôl eto gefn llwyfan cyn diwedd yr wythnos.

Beth bynnag roedd hi'n braf iawn ei weld.

Nia Lloyd Jones - strong>ddoe

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.