91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Eisteddfod Nia Lloyd Jones - dydd Mercher

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 11:44, Dydd Iau, 4 Awst 2011

Mae Nia Lloyd Jones, 91Èȱ¬ Radio Cymru, yn blogio o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 bob dydd.

Fel dwi wedi dweud sawl gwaith erbyn hyn, mae pawb a'i nain yn dod i gefn llwyfan - yn gystadleuwyr a chefnogwyr.


Ond mi roedd 'na un dyn bach ar ei ben ei hun yno heddiw - Sion Jenkins o Landysilio ger Clunderwen yn cystadlu ar y llefaru unigol dan 19 oed.

A lle'r oedd gweddill y teulu? Wel maen nhw ar eu gwyliau yn Sbaen ac wedi dod yn gyfeillgar â 'barman' lleol. Ei enw fo? Sion Jenkins!

A thra bo nhw'n mwynhau'r haul yno, mae Sion yn y garafán hefo Mam-gu a Thad-cu!

Dau oedd ar y llwyfan yn yr unawd operatig heddiw oedd Eirlys Myfanwy Davies a Meilir Jones ac mae'n debyg bod y ddau yma yn adnabod ei gilydd yn dda gan eu bod nhw'n gyd fyfyrwyr yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd.

Bu'r ddau yn cydweithio'n agos ar gynhyrchiad go arbennig yn ddiweddar hefyd - mor agos nes bod rhaid i Meilir fynd i'r afael ag Eirlys yn gorfforol. Ddudwn ni ddim mwy....

Mae Mared Elin Williams wedi cael eisteddfod i'w chofio - gan iddi ddod yn fuddugol ar yr unawd o sioe gerdd dan 19 oed yn ogystal ag ennill ar yr unawd cerdd dant dan 16 hefyd.

Mae ganddi lais nad ydw i byth yn 'laru arno ac mi fydd hi nôl ar y llwyfan heno hefyd yn rhan o gyngerdd mawreddog Ysgol Glanaethwy.

Chwip o gystadleuaeth


heddiw oedd yr un i'r triawdau a phedwarawdau cerdd dant ac ar y llwyfan roedd Tri Gog a Hwntw, Pedwarawd Pen y Bryn a Thriawd y Berfeddwlad.

Catherine Watkin sydd yn gyfrifol am gadw trefn ar hogia'r Berfeddwlad, ac mae'n amlwg eu bod nhw wrth eu boddau yn cystadlu.

Ac er nad oedd un o'r triawd - Eilir - mor hapus gyda'i berfformiad ar y llwyfan heddiw Triawd y Berfeddwlad ddaeth i'r brig.

Be oedd yn gyffredin rhwng y tri oedd ar y llwyfan yn yr unawd alaw werin dan 21 oed?

Wel, mae'r tri yn dod o Ysgol Glan Clwyd, y tri wedi canu fel triawd hefyd, a'r tri yn cael eu hyfforddi gan yr un athrawes - Leah Owen.


Y tri oedd Bethany Celyn, Steffan Rhys Hughes ac Angharad Rowlands.

Mae Leah wedi cael wythnos lwyddiannus iawn hyd yma - a phwy a ŵyr sawl gwobr arall ddaw iddi cyn diwedd yr wythnos.

Llongyfarchiadau mawr i Gwilym Roberts, Rhiwbeina ar dderbyn Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas am ei gyfraniad ym myd dysgu Cymraeg i Oedolion.

Fel un sydd wedi dechrau ar y gwaith yma ers rhyw ddwy flynedd bellach mae gen i barch mawr at bobl fel Gwilym sydd ac egni diddiwedd ac yn llwyddo i ysbrydoli cymaint o bobl.


Ac fe ges i gyngor da ganddo hefyd - sef sicrhau bod y gwersi'n ffres a phrysur a sicrhau nad ydi'r dysgwyr yn y dosbarth yn eistedd i lawr!

Ac i gloi llongyfarchiadau mawr i Meirion Wyn Jones ar ennill Tlws y Cerddor heno.

Mae Meirion yn un o gyfeilyddion swyddogol yr Eisteddfod, a thra'n sgwrsio bore ma dyma fi'n ei holi sut ddiwrnod oedd ganddo ar y gweill - a'r ateb ges i oedd 'diwrnod tawel ... dim byd yn digwydd heddiw!'

Felly yn ogystal a bod yn gerddor o fri, mae o hefyd yn un da iawn am ddweud celwydd!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.