Pobol a beirniaid
Braf medru dweud "Mi ddeudis i" a llongyfarch Ned Thomas am fynd â gwobr Llyfr y Flwyddyn 2011 gyda'i hunangofiant, Bydoedd.
A'r fath ganmoliaeth gan y Dr Simon Brooks, cadeirydd y beirniaid. Hunangofiant gorau'r ganrif medda fo - ond mae digon o amser i eraill ragori ar hynny gan mai ond deng mlynedd o'r ganrif hon sydd wedi mynd!
Yr unig beth i darfu ar lawenydd y noson, bosib, oedd mai un o'r llyfrau eraill yn y gystadleuaeth oedd 'Dewis y Bobl' a nofel Dewi Prysor yn ennill eu pleidlais hwy.
Mae rhywun yn gorfod gofyn; Beth mae hynny yn i ddweud am chwaeth y beirniaid proffesiynol a chwaeth darllenwyr cyffredin? Adlewyrchu'n sâl ar bwy mae penderfyniadau o'r fath.
Y werin datws am fod yn ddigrebwyll ynteu'r deallusion am fod allan o gysylltiad a chwaeth y bobl?
Peidiwch a disgwyl ateb gen i - ond doedd rhywun ddim yn synnu o gwbl mai sgrifennu a dychymyg yr hen wariar Dewi Prysor oedd yn apelio at werin gwlad - a chymryd mai gwerin gwlad bleidleisiodd, beth bynnag.
Lladd Duw? Mi fydd o wrthi fel lladd nadroedd nawr i ennill y deng mil yna a than y trefniadau newydd bydd ganddo hyd yn oed fwy o obaith.