Cofio'r Gadair Ddu gyntaf
Yr ydym i gyd yn cofio am Eisteddfod Cadair Ddu Hedd Wyn ym Mhenbedw 1917. Ond nid dyna'r unig Eisteddfod Cadair Ddu.
Dyna hanes Eisteddfod Wrecsam 1876 - yr Eisteddfod Cadair Ddu gyntaf.
Y bardd buddugol oedd Taliesin o Eifion a bu ef farw yn 55 oed y noson yr anfonwyd ei gerdd i'r gystadleuaeth.
Y chwedl yw mai ei eiriau olaf ar ei wely angau oedd, "Ydyw'r awdl wedi ei danfon yn saff?"
Yr ateb oedd ei bod - ac iddi fod yn deilwng o'r Gadair.
Yn naturiol, yr oedd pawb dan deimlad ddydd y cadeirio a neb mwy na'r gantores - y Bencerddes yn wir - Edith Wynne y daeth i'w rhan i ganu Dafydd y Garreg Wen ar lwyfan y Pafiliwn.
Bu'n rhaid iddi ymgilio y tu ôl i'r Gadair a'r nodau yn ei llwnc wrth i'w theimladau gael y gorau arni .
Dywedir hefyd - ac mae dyfyniad o adroddiad Baner ac Amserau Cymru yn Rhaglen y Dydd eisteddfod Wrecsam eleni yn cadarnhau hynny, fod y dagrau yn powlio i lawr gruddiau y Gorsedigion a safai ar y llwyfan.
". . . safai y beirdd yn rhes o bobtu i'r gadair, yn fudion, a'r dagrau yn burstio allan yn ddistaw, ac yn rhedeg yn afonydd hyd eu gruddiau; dagrau y Barwnig o Wynnstay, yr hwn a adaweai y bardd cadeiriol yn dda, yn syrthio fel pys o'i lygaid, nes yr oedd llawes côt Hwfa Môn . . . yn wlyb trwyddynt," meddai'r adroddiad.
A'r bardd buddugol pwy oedd o felly?
Fe'i ganwyd yn Llanystumdwy ar Fedi 13, 1820. Derbyniodd ei dad Fedal Trafalgar am ei fod ar fwrdd y Victory, yn aelod o'r gerddorfa.
Yn ôl symudodd y teulu yn 1826 i Langollen lle mabwysiadodd Taliesin grefft ei dad yn blymar ac addurnwr "a gwelwyd ôl ei law ar arwydd llawer tŷ tafarn".
Er nad yw'r creadur yn haeddu cofnod yn y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru na Gwyddoniadur yr Academi y mae yn rhan o hanes eisteddfodol Cymru ac yn ei ddydd yn eisteddfodwr blaenllaw ac yn awdur un o'r dramâu mydryddol Cymraeg cyntaf, Brwydr Crogen.
Os gwyddoch chi fwy - neu os oes enghraifft o'i waith, anfonwch air . . .
Wedi Eisteddfod Wrecsam daethpwyd i'w adnabod fel "Bardd y Gadair Ddu" ac ni fu digwyddiad tebyg wedyn tan 1917 ym Mhenbedw.
I wylio clip fideo am hyn cliciwch YMA