Nia yn Abertawe - dydd Iau
Mae gohebydd 91Èȱ¬ Radio Cymru, Nia Lloyd Jones, yn blogio bob dydd o gefn llwyfan yr Eisteddfod.
Dydd Iau - diwrnod prysur iawn!
Braf iawn oedd cael sgwrs hefo Gwenllian Llyr ben bore. Mae Gwenllian yn delynores dalentog iawn, ac wedi cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd er pan oedd hi'n ddim o beth.
O'n i'n ei holi os oedd hi am fynd â'i thelyn ond 'na' oedd yr ateb gan y byddai hynny'n costio tua dwy fil o bunnau!!
Piano Rwsia
Anhygoel - dyna'r unig air i ddisgrifio cystadleuwyr yr unawd piano, Talis Spence, Geraint Llyr Owen a Charlie Lovell-Jones. Fe gafodd Talis ei magu yn Rwsia, ac yno y dysgodd hi ganu'r piano cyn dychwelyd i Gymru ddwy flynedd yn ôl.
Mae'n bosib bod dilynwyr You Tube yn gyfarwydd a Geraint Llyr Owen - gan fod 'na ffilm ohono yn canu yn fanno, ac o ganlyniad i hynny fe gafodd ei wahodd i ganu ar Broadway!
Ac mae Charlie yn aelod o Gerddorfa Ieuenctid Prydain, ac yn bwriadu treulio'r haf yn cael gwersi cerdd 'dwys' yn Ne Ffrainc. Anhygoel!
Seren
Un o sêr y diwrnod i mi heddiw oedd Iwan Davies o Ysgol Rhydywaun a fo enillodd ar y llefaru unigol.
Dyma hogyn annwyl (er ei fod yn cefnogi Arsenal). Mae o'n gyfarwydd iawn â pherfformio ar y llwyfan gan iddo ymddangos yn y cynhyrchiad teithiol diweddar o'r Sound of Music - yn actio un o'r plant sef Kurt - hefo Connie Fisher.
Beics
A thra dwi'n sôn am Ysgol Rhydywaun, mae'n rhaid cyfeirio at eu llwyddiant yng nghystadleuaeth y cyflwyniad dramatig dan 19 oed. Y llynedd roedd criw Rhydywaun yn defnyddio meinciau hir o'r ysgol ar y llwyfan, felly be tybed fyddai ganddyn nhw ar y llwyfan eleni?
Wel, fe ddaeth 'na tua chwech o feics i'r llwyfan i bortreadu y chwyldro yn Sgwâr Tianamen ac roedd hwn yn bortread dramatig llawn lliw a chyffro.
Llongyfarchiadau mawr i'r ysgol a'r athrawes hynod greadigol, Rhian Staples. Duw a ŵyr be gawn ni flwyddyn nesa!
Ddim yma
O'n i wedi clywed si na fyddai un aelod o ensemble Ysgol Gyfun Gartholwg yma ar gyfer y gystadleuaeth ensemble lleisiol - a doedd o ddim yma chwaith.
Lle oedd o felly? Sâl? Ar ei wyliau?
Y rheswm nad oedd Jay Worley yma oedd oherwydd ei fod yn cael llwyddiant mawr ar hyn o bryd mewn cystadleuaeth arall - Britain's Got Talent.
A phob lwc iddo yn y gystadleuaeth honno.
Ond ta waeth, aeth gweddill y criw yn eu blaen i ennill y wobr gyntaf, a llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ar eu perfformiad operatig a hwyliog.
Gwres y ddawns
Mi roedd hi'n boeth iawn ar y llwyfan heddiw, a'r rhai oedd yn dioddef waethaf oedd y dawnswyr. Mi ges i sgwrs hefo Anwen, Sara a Siwan oedd yn cystadlu ar y ddawns werin bl 7,8,a 9, ac mi roedd y tair ohonyn nhw yn edrych yn bictiwr.
Roedd Anwen yn awyddus iawn i gael diolch i Mam-gu a Tad-cu am brynu'r wisg binc (o ddeunydd Melin Tre Gwynt - fel un Sara) yn bresant Nadolig iddi.
Diwrnod llwyddiannus
Linda Morris oedd yn arwain corau Ysgol Dyffryn Conwy heddiw, ac fe gawson nhw ddiwrnod llwyddiannus iawn.
Ond i Linda roedd 'na dristwch gyda'r gorfoledd gan fod Linda yn rhoi'r gorau i'w swydd yr haf yma er mwyn symud i fyw i Florence.
Roedd y disgyblion i gyd yn awyddus i ddiolch iddi am ei harweiniad, ac yn sicr fe gafodd hi ddiwrnod i'w gofio.
Dan groen cymeriad
Seren arall y diwrnod oedd Sioned Elin Davies - enillydd y monolog dan 19 oed. Dyma chi hogan sydd yn medru treiddio dan groen cymeriad, ac mae hi'n hawlio eich sylw o ddechrau i ddiwedd perfformiad. Doedd gen i ddim llai na'i hofn hi ar y llwyfan!
Buddugoliaeth Llangynwyd
Ac i gloi - at y bois! Llongyfarchiadau mawr i barti bechgyn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ar eu buddugoliaeth.
Synnwn i daten na fydd rhai o'r rhain yn aelodau o Only Men Aloud ymhen rhai blynyddoedd.
Wedi'r cyfan, mae eu harweinydd - Nia Edwards - yn briod â Tim sy'n aelod o OMA.
Mae Tim yn gweithio i'r Urdd ac yn un o'r criw gweithgar gefn llwyfan sy'n cadw'r sioe i fynd a fo oedd y cyntaf i longyfarch yr hogia ddoe.
SylwadauAnfon sylw
Nia neis i glywed eich llais eto ar radio cymru yn bwyhau pawb a phopeth fel arfer.
Hwyl
Derrick