91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dwy a dau yn erbyn un

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 17:04, Dydd Iau, 19 Mai 2011

A dyna hi gryn dipyn yn haws gwybod ar beth i roi ei bres yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn dilyn cyhoeddi'r Rhestr Fer heno.

Dwy nofel ac un hunangofiant sy'n awr yn y ras am y wobr fawr. A dau ddyn ac un ferch yn cystadlu am y £10,000.

A'r teimlad ymhlith pawb yr ydw i wedi bod yn siarad â nhw ydi mai Bydoedd Ned Thomas fydd yn mynd â hi yn y diwedd a'r ddau nofelydd, Dewi Prysor ac Angharad Price, yn gorfod bodloni ar £1,000 yr un.

Mi gawn ni weld.

Ambell un wedi ei synnu nad oedd yr unig gyfrol o farddoniaeth ar y rhestr hir wedi 'mynd drwodd' - fel byddwn ni'n dweud mewn cylchoedd llenyddol - a'i gwneud hi'n ymgiprys rhwng cofiant, nofel a cherddi.

Gorffennaf 9, byddwn yn gwybod y cyfan ac yn gwybod hefyd pa lyfr o'r deg ar y rhestr hir enillodd galon y darllenwyr cyffredin o gymharu ag un 'arbenigwyr' y panel beirniaid. Ac roedd o'n banel go styrdi eleni mae'n rhaid dweud. Tri a barn i'w pharchu. Ond a fydd hi'n farn sy'n plesio hefyd?

Clywais rai yn crugo am yrelfen 'Dewis y Bobol' yma yn y gystadleuaeth.
Ac mae o'n syniad digon od.
Dewis tri i ddyfarnu gwobr ac ar yr un pryd trefnu pleidlais a all o bosib dynnu'r tir dan draed yr enillydd.
Digwyddodd hynny yn y gorffennol wrth i enillydd swyddogol gael ei wrthod gan y Bobol.

Tybed gan bwy o'r deg awdur mae'r teulu mwyaf niferus?

Onid yw holl beth yn ymddangos fel pe byddai wedi ei greu i ddangos amarch anfwriadol at y beirniaid yn gyntaf ac i ddifetha wedyn noson y sawl sy'n dathlu?

Beth bynnag, os yda chi am ysgwyd y cwch llyfryddol trwy wefanmae pleidleisio.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.