Digon o wyneb
Dros y blynyddoedd bu'n beth cyffredin cael dipyn o ddrama ar S4C noson Gŵyl Dewi.
Mae rhywun yn cofio Penyberth, er enghraifft.
Ac yr oedd un o actorion nodedig y genedl ar y sgrin neithiwr, Julian ffrind Clint Eastwood Lewis Jones, ac yr oedd o'n ddramatig iawn yn gyrru dwy fil o filltiroedd mewn Citreon nobl mewn ymdrech i ddarganfod wyneb Owain Glyndŵr gan ddweud pethau fel, "yno byddaf yn gwneud darganfyddiad anhygoel o ddramatig," dim ond i'n siomi â darganfyddiad braidd yn, wel, braidd yn siomedig.
Ymgymerwyd â'r dasg ar sail y ffaith nad oes cofnod o wyneb yr arwr cenedlaethol ac ar ysgwyddau llydain Julian "actor a Chymro i'r carn" yn ôl, ei dystiolaeth ei hun, y syrthiodd y dasg o greu un gyda chymorth "tîm arbenigol o dechnegwyr, haneswyr, beirdd, ymchwilwyr ac artistiaid", yr FBI a llais cadarn a herfeiddiol Julian y gallasai Owain Glyndwr ei hun fod wedi gwneud ag ef i ddychryn Saeson.
Fe'm dychrynodd i beth bynnag yn ystod yr hyn a alwodd yn daith "debyg iawn i'r Da Vinci Code".
Yn ei gynorthwyo ar ei ffordd yr oedd y Prifardd Tudur Dylan Jones efo llyfr yn ei law a dwyster yn ei lais, Twm Morys yn Sycharth, ceidwad ofnus yr olwg Amgueddfa ym Mharis oedd yn atebion cwestiynau Cymraeg Julian mewn Ffrangeg rhugl.
Ella'i fod o wedi cymryd ato clywed disgrifio prifddinas Ffrainc fel "y dre".
Gyda'r addewidion o ddarganfyddiadau newydd ysgytwol yr oedd y Daily Post y bore ma yn disgrifio'r rhaglen fel "ground-breaking S4C documentary" ond mewn gwirionedd at bethau a chreiriau cyfarwydd y trowyd;
Y cerflun adnabyddus o Owain Glyndŵr a ddadorchuddiwyd yn Neuadd y Ddines Caerdydd 1916, copi o lythyr Pennal ym Mhennal ger Machynlleth a'r llythyr go iawn ym Mharis a llythyr arall, hefyd ym Mharis, wedi ei anfon o "Llanpadarn" gyda sêl fawr Owain Glyndwr arnyn nhw.
Ac yn olaf, y llun cyfarwydd erbyn hyn o Sion Cent yn nghartref y Scudamoriaid yn Kentchuch y mae rhai, gan gynnwys ficer Pennal, Geraint ab Iorwerth, yn dyfalu mai Owain Glyndŵr yn ei henaint yw.
Ac yn llyfr Arthur Bradley am Owain darganfu Tudur Dylan Jones gyfeiriad a awgrymai bod dafad - wart - dan lygaid chwith Glyndŵr .
Ac yn wir, o graffu - fel buasen nhw'n dweud yn y Cynulliad - gwelwyd ôl crachen o'r fath yn llun Sion Cent yr anfonwyd copi ohono at yr FBI yn yr America i'w ddadheneiddio - gair y rhaglen.
Bwydwyd y pen a ieuengwyd i gyfrifiadur lle'r ychwanegwyd gwallt gwinau, barf fforchog a llygaid byw ato gan beri Julian gyhoeddi mewn perlewyg bron, "Dwi wir yn credu fy mod i'n edrych yn syth i lygaid Owain Glyndŵr."
Yr oedd ymateb Tudur Dylan yntau yr un mor orgasmig a gallwn ddychmygu mai cyfres o siomedigaethau fydd gweddill ei flwyddyn yn dilyn y fath brofiad dyrchafol.
"Asgob fawr, ydi mae hwnna yn anhygoel. Mae'r llygid yna yn edrych drwyddo ti," meddai.
Ond aeth o ddim cyn belled a dweud eu bod nhw'n eich dilyn o gwmpas y stafell!
"Mae'r dewrder yna," meddai am Yr Wyneb.
"Ac mae yna ddagrau yna hefyd . . . meddylia be mae'r llygid yna wedi weld. Mae'r boi yna wedi bod drwyddi, fuaswn i ddim yn pigo ffeit efo'r boi yna. Mae'r llun yna yn dweud y cyfan," gan brofi y tu draw i bob amheuaeth, unwaith ac am byth, mai dyma'n wir Wyneb Owain Glyndŵr.
A Julian yn holi "tybed pa arwyr eraill o'n hanes cyfoethog sy'n aros i gael eu deffro" gan ddychryn rhywun i synhwyro cyfres.
Ac wrth i'r enwau ddiflannu oddi ar y sgrin ar y diwedd sylwais innau mai cynhyrchiad cwmni o'r enw Wild Dreams oedd hwn ar gyfer y sianel.
Gellir gwylio'r rhaglen ar safle ar wefan S4C.