Dau begwn Patagonia
Mae yna rywfaint o begynnu barn am y ffilm Patagonia gyda Duffy a Matthew Rhys.
Adolygydd y Daily Telegraph yn ei disgrifio fel llwyd a blinedig - "pallid and fatiguing" ond gwefan yn canmol cyfoeth ei "cinematic textures".
Mae'n disgrifio hefyd gameo hyfryd gan Duffy tra bo Kevin Harley o Total Film yn ei chyhuddo hi, druan fach, o "roi un hoelen olaf yn arch y ffilm".
Dwi'n meddwl ei bod yn deg dweud i ymateb y beirniaid Cymraeg fod yn gyffredinol ganmoliaethus gyda Branwen Gwyn ar Raglen Dewi Llwyd ar 91Èȱ¬ Radio Cymru fore Sul yn ei disgrifio fel y ffilm Gymraeg orau a welodd erioed a rhoi deg allan o ddeg iddi.
Gall gystadlu'n hawdd efo ffilmiau Hollywood meddai.
Canmol hefyd mae Lowri Haf Cooke ar y wefan hon.
Ac ar wefan film jabber dywed adolygiad y fod yr actorion yn gyffredinol dda ac yn dygymod yn iawn â'r hiwmor yn y sgrifennu sy'n cadw pethau i fynd.
"Dydi Patagonia ddim heb ei ffaeleddau ond maen nhw'n nodweddiadol fach," meddir gan gyfeirio at actio cryf, sgrifennu cynnes a golygfeydd hyfryd fel y pethau o'i phlaid.
Fodd bynnag, fel "drab, soap opera-like melodrama" mae yn disgrifio ffilm Marc Evans ond yn canmol ei lygaid am luniau trawiadol.
"Collector's item" ydi disgrifiad Anthony Quinn yn yr o'r ddau "road movie" am bris un yma .
A gwelodd eiliadau o "felodrama a nwyd dwys" yn ogystal â hiwmor.
Ym marn y Daily Mirror hefyd mae'r ffilm yn "complete gem".
O gywain casgliad o sylwadau daw i'r casgliad mai pump allan o ddeg yw haeddiant Patagonia
Gyda chymaint o wahaniaeth barn does dim dewis ond mynd i weld a dod i'ch casgliad eich hun a Mawrth 31 yn , Yr Wyddgrug, fydd y cyfle cyntaf yn yr ardal hon.
Gawn ni weld wedyn pwy sy'n iawn, Branwen Gwyn ynteu Tim Robey y Telegraph.
Ac os gwelwch chi'r ffilm - anfonwch air.