Geiriau cyntaf
Ie, Na, yr 'Ymgyrch Ie', arian S4C, cenhedloedd brodorol Gogledd America a'u hiaith - tri o'r pynciau a fu'n destun sylw yn ystod yr wythnos a fu.
Detholiad cyntaf 2011 o sylwadau a welwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.
A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi. . .
- Flwyddyn i heddiw y cyhoeddodd Jonathan Ross ei fod yn gadael y 91Èȱ¬. Erbyn meddwl, dyna sut maen nhw wedi dod o hyd i arian i gynnal S4C - Madog Mwyn yn 'Y Cymro'.
- Mewn egwyddor rwy'n credu ei fod yn syniad gwych ond dydi draig werdd jyst ddim yn iawn i mi, fe ddylai fod yn goch - Y Cynghorydd Gareth Griffiths o Gyngor Bwrdeistref Wrecsam ar ôl clywed y byddai draig efydd y gobeithir ei gosod ar y ffin yn Y Waun yn troi'n wyrdd yn y tywydd.
- Fel un gafodd ei fagu yn yr Unol daleithiau mae'n rhyfedd meddwl fod gan bob talaith yn America fwy o bwerau na'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'n warth dydi? Mae'n warthus - y Dr Jerry Hunter yn cefnogi'r 'Ymgyrch Ie'.
- Rwy'n credu ei bod yn warthus fod plant cynradd diniwed wedi cael eu defnyddio yn y ffordd sinigaidd ac anfaddeuol hon - Kevin Mahoney o Ukip yn gwrthwynebu rhan disgyblion ysgol gynradd yn y Barri yn yr 'Ymgyrch Ie'.
- Gydol fy ngyrfa, rwy wedi ceisio gwneud pethau cymhleth yn ddealladwy ac mor syml ag sy'n bosibl - Roger Lewis, cadeirydd yr 'Ymgyrch Ie' yn 'Golwg'.
- Rhaid cyfaddef bod yr holl wyliau banc diweddar wedi bod yn fwrn - Hafina Clwyd yn y 'Western Mail' ddydd Mawrth.
- Mae'n eglur bod yn rhaid inni ail fywiocau y brand Cymreig - Ieuan Wyn Jones AC, y Dirprwy Brif Weinidog.
- I bob pwrpas, mae'r broblem wedi diflannu dros nos - Llefarydd Heddlu Dyfed Powys yn ymateb i ddirgelwch ceffylau a ymddangosodd yn Llanelli gan ddiflannu wedyn!
- Mae mynd draw yno wedi gwneud i mi sylwi pa mor bwysig ydy'r iaith i fi. Heb yr iaith, Saeson ydan ni mwy neu lai - Iolo Williams yn dilyn ei ymweliad â brodorion Gogledd America ar gyfer rhaglen deledu.
- Mae'n rhaid imi ddweud mae Gavin yn fachan mor wych fel nad oedd gen i unrhyw reswm i boeni - Klaus Kongsdal, cariad Katya Virshilas partner Gavin Henson yn 'Strictly Come Dancing'.
- Yr ydw i wedi ei chyfarfod tua saith gwaith a dydi hi byth yn cofio pwy ydw i - Charlotte Church yn dweud nad oes gan y Frenhines "ddim syniad beth sy'n digwydd" o'i chwmpas oherwydd ei henaint.
- Beth am gymryd y cam amlwg o ddiddymu'r sgrym [mewn rygbi] unwaith ac am byth. Petai ond ar sail iechyd corfforol a meddyliol y gwylwyr - Lefi Gruffudd wedi cael digon ar wylio "16 o hyrddod" yn ceisio ac yn methu gwthio'i gilydd ugain gwaith yn olynol.
- Daeth dynes i mewn a gofyn am ddau fatri i'w thortsh. Dywedodd Liz yn y siop eu bod ond yn dod mewn pecyn o bedwar ond mi dorrodd y pecyn a gwerthu dau fatri. Dyna'r math o wasanaeth oedd yn cael ei gynnig - yn gofidio bod siop Griffiths yn y pentref yn cau wedi can mlynedd o wasanaethu'r ardal.
- Port a lemonêd, bwyd a chanu carolau am eni Iesu - Menna Machraeth yn ateb y cwestiwn 'Beth wyt ti yn ei fwynhau am y Nadolig' yn Y Pedair Tudalen Gydenwadol' yn y newyddiaduron crefyddol.
- [Roedd] gan Gerallt lygaid craff am arferion cymdeithas y Canol Oesoedd, ac iddo hyd yn oed nodi bod y Cymry yn glanhau eu dannedd yn well na'r un hil arall gan eu bod yn defnyddio brigau'r goeden gollen fel rhyw fath o fflos dannedd - Yr Archesgob Barry Morgan a fu'n dilyn llwybrau Gerallt Gymro ar gyfer rhaglen ar S4C.
- Dewch adref i Lafur - Galwad Carwyn Jones AC i'r Demoocratiaid Rhyddfrydol.
- A pham yn enw popeth y mae angen iddo [y Tywysog William] dreulio tair blynedd ar yr ynys [Môn] yn dysgu hedfan hofrennydd, tasg nad oes modd iddi hi fod lawer iawn yn fwy anodd na dysgu gyrru car neu JCB? - Cwestiwn llythyrwr yn 'Y Cymro', Gareth Rowlands, Llangollen.