91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hen dai'n apelio

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 15:58, Dydd Gwener, 3 Rhagfyr 2010

Mae yna gymaint o brynu wedi bod ar y llyfr Cyflwyno Cartrefi Cefn Gwlad Cymru mae'n rhaid i'r argraffu rhagor ar gyfer y siopau cyn y Nadolig.

Cyhoeddir Cyflwyno Cartrefi Cefn Gwlad Cymru / Introducing Houses of the Welsh Countryside gan Y Lolfa mewn cydweithrediad efo Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Yr awduron ydi Richard Suggett o'r Comisiwn Brenhinol a'r hanesydd Dr Greg Stevenson.

Clawr y llyfr

Mae'n olrhain datblygiad adeiladu yng nghefn gwlad Cymru dros y canrifoedd ac yn cyd-fynd â chyfres ar gydag Aled Samuel.

"Mae'r ymateb i'r gyfrol wedi bod yn wych. Gyda chyfuniad o luniau trawiadol ac ysgrifennu awdurdodol Gregg Stevenson a Richard Suggett mae wedi taro deuddeg ac yn gwerthu'n dda ym mhob rhan o Gymru," meddai Pennaeth Golygyddol y Lolfa, Lefi Gruffudd.

Cafodd ei hadolygu ar ein gwefan ni gan John Stevenson.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.