Cau drws Y Llan
Wele gyhoeddi y dydd o'r blaen y rhifyn olaf o bapur newydd yr Eglwys yng Nghymru, Y Llan.
Er hysbysebu deirgwaith methodd Y Llan â dod o hyd i neb i'w olygu a chymryd yr awenau oddi ar Huw Tegid a fu'n golygu'r cylcghgrawn yn fywiog iawn am y pedair blynedd diwethaf.
"Y mae'n drueni mawr na lwyddwyd i benodi golygydd ond eto nid yw'n synod," meddai Huw Tegid wrth gau'r drws am yr olaf dro yn ei rifyn olaf.
"Wrth i'r oriau roeddwn i'n gallu ei roi bob mis i'r Llan brinhau, prinhau hefyd wnaeth y cyfraniadau, a chydag ymadawiad Canon Dewi Tomos, collodd Y Llan un arall o'i chyfranwyr ffyddlonaf," meddai.
Dywed hefyd fod mwy erbyn hyn yn troi at ddalennau'r we nag at gyhoeddiadau traddodiadol ac ar y we y ceisir llenwi'r bwlch a adawyd gan Y Llan.
"Yn sgil y ffaith na lwyddwyd i benodi golygydd, llwybr digidol yw'r un mae'r wedi ei ddewis hefyd ac yn fuan iawb bydd gwasanaeth newyddion dwyieithog yn cael ei lansio ar ein gwefan," meddai gan wahodd cyfranwyr Y Llan i gyfrannu at y gwasanaeth newydd hwnnw.
Yn hyn o beth bu'r eglwysi anghydffurfiol yn fwy ffodus ac mae'r , newyddiadur wythnosol y Presbyteraid, newydd gychwyn ar gyfnod newydd dan olygyddiaeth newydd y Parchedig Pryderi Llwyd Jones.
Ond mae'n debyg gen i fod pawb sy'n ymhel a â chyhoeddiadau fel yn hyn teimlo'r drafft rywfaint ac yn edrych yn bryderus tua'r dyfodol a doedd yna fawr i godi eu calon yn yr hyn a ddywedai un o gyn olygyddion Y Llan, Lyn Lewis Dafis, ar y rhaglen radio, Bwrw Golwg, ddoe.
Fel byddai y cenhedlaeth fy nain yn dweud, "Mae eisiau gras a mynedd" - a chryn dipyn o ffydd hefyd y dyddiau dyrys hyn.