91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Allan o'r byncar

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 06:17, Dydd Iau, 9 Medi 2010

I gyd-fynd â chynnal cystadleuaeth Cwpan Ryder yng Nghymru mae Gwasg Carreg Gwalch wedi cyhoeddi'r nofel gyntaf yn y Gymraeg gyda chwarae golff yn gefndir iddi.

Fel yr adroddwyd ar y wefan hon yn gynharach cafodd yr awdur, Gareth william Jones, ei hun mewn dipyn o dwll wrth ddewis teitl i'r nofel - oherwydd helyntion Tiger Woods oddi ar y cwrs golff.

Gareth William Jones

Y teitl gwreiddiol oedd Dilyn y Teigr ond oherwydd anturiaethau'r golffiwr y tu allan i'r gêm penderfynodd Gareth mai gwell fyddai newid y teitl hwnnw.

"Teitl y nofel erbyn hyn yw Breuddwyd Monti," meddai gan egluro mai nofel yw hi am fachgen o'r enw Marc Montgomery sy'n ei chael yn anodd gwireddu ei freuddwyd o chwarae golff.

Dywedodd Gareth i'r syniad ddod pan roedd yn chwarae golff yn ei glwb, Borth ac Ynyslas, ger Aberystwyth.

"Sylwais bod nifer fawr o blant yn chwarae ar y cwrs a'u bod yn chwaraewyr da iawn hefyd," meddai.

Eisoes yn awdur cyfres am chwarae rygbi rhoddodd gynnig ar golff fel cefndir.

"Mae llawer o ferched yn ogystal â bechgyn yn chwarae golff wrth gwrs," meddai Gareth, "ond wrth i'r stori dyfu yn fy mhen penderfynais mai dweud stori am fachgen y baswn i," meddai.

Er, rwy'n gobeithio y bydd y nofel yn apelio at bawb, ac yn denu plant nad sy'n chwarae golff i ddilyn breuddwyd Monti a dechrau chwarae'r gêm," ychwanegodd.

Mae Gareth hefyd yn gobeithio y bydd cyhoeddi'r nofel gyntaf yn y Gymraeg â chefndir golff iddi yn cyfrannu ryw ychydig at ddathlu cynnal Cwpan Ryder yng Nghymru am y tro cyntaf.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.