91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rhwng dau gloc

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 06:15, Dydd Mercher, 4 Awst 2010

Mae dau gloc urddasol i'w gweld o Faes yr Eisteddfod ym Mlaenau Gwent.

Un ar dŵr adeiladau hen swyddfeydd y gweithfeydd dur a'r llall ar dwr eglwys yr ochr arall i'r cwm.

Cloc yr Eglwys

Mae'r cyntaf wedi aros yn gyson ar ddeuddeg o'r gloch ers inni gyrraedd y Maes ond y llall, ar yr eglwys, yn ddigon agos at yr amser sydd ar watsus pawb arall ar y Maes.

Bob amser yn dweud y gwir fel y byddech chi'n ddisgwyl gan gloc eglwys a siawns nad oes yna foeswers grefyddol yn y geirwiredd amseryddol hwn - byddai rhaid cael un o ystumwyr damhegion 'Dweud eich dweud' y 'Post Cyntaf' i ddweud hynny'n daclus.

"Wel mae hi'n hanner dydd parhaol ar hwnnw," meddwn i.

"Efallai mai hanner nos stopiodd o," awgrymodd cyfaill.

Cloc Y Gwaith" style="text-align: center; display: block; margin: 0 auto 20px;" />A beth am y llall?
"Amhosib," meddai cyfaill arall. "Fyddech chi ddim yn gallu'i weld yn y tywyllwch."

Tic toc.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.