Nia 'Nglynebwy - Sadwrn
Bydd Nia Lloyd Jones Radio Cymru yn sibrwd o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent gydol yr wythnos. Dyma ei chyfraniad cyntaf.
Wel dyma ni unwaith eto! A finna'n teimlo fel dweud Blwyddyn newydd dda wrth sawl un gefn llwyfan!
Ac yma y bydda i tan y nodyn olaf nos Sadwrn, a dwi'n edrych ymlaen yn arw at gael gair efo hwn a'r llall - yn gystadleuwyr, cefnogwyr, aelodau'r Orsedd a'r stiwardiaid.
Dydd Sadwrn
Diwrnod y bandiau arian ydi hi'n bennaf heddiw - diwrnod llawn sain anhygoel a lliw. Er bod gan bob band ei wisg swyddogol, smart, dewisodd Alice - arweinydd Band Arian Cwm Ogwr - wisg ychydig yn wahanol trwy wisgo cilt o frethyn Cymreig!
Jyst y peth ar y llwyfan poeth yna. Ac ar flaen y cilt roedd ganddi sboran, a dyma fi'n digwydd holi be oedd yn hwnnw - a chwarae teg iddi, fe ddatgelodd y cyfan; potel fach o ffisig hud i leddfu'r llwnc!
Wir i chi, mae rhywun darganfod cyfrinachau lu gefn llwyfan!
O'r gogledd
Braf oedd gweld cynrychiolaeth o'r gogledd hefyd. Roedd Seindorf yr Oakley ar y llwyfan, ac un o'r offerynwyr oedd Lowri Thomas - neu Low Tom fel y'i gelwir hi yn un o ganeuon Gwibdaith Hen Fran.
Dyma chi ges, ac roedd hi wrth ei bodd yn perfformio ar y llwyfan heddiw.
Gwr bonheddig ydi arweinydd y band hefyd, John Glyn Jones a chamodd yn hamddenol i'r llwyfan â gwên fawr ar ei wyneb.
Ac roedd o'n dal i wenu wrth adael.
Braf iawn oedd cael gair hefo aelod arall o'r band hefyd - Raymond. Fo ydi meistr y gwisgoedd ac yn chwarae clamp o offeryn - 'double b flat bass'.
Y peth cyntaf wnaeth o ar ôl dod oddi ar y llwyfan oedd stwffio'r copïau i mewn i grombil yr offeryn mawr hwnnw!
Rhoi'r gorau
Un peth gwych am fandiau pres ydi eu bod nhw'n llwyddo i ddenu pobl o bob oed ac roedd hi'n ddiwrnod mawr i un o aelodau Band Arian Y Drenewydd, Phil Evans, oedd yn rhoi'r gorau i berfformio hefo'r band heddiw, a hynny ar ôl 58 o flynyddoedd.
Ond mae'r dyfodol yn edrych yn addawol iawn - gyda dwy genhedlaeth arall o'r teulu yn parhau yn aelodau o'r band.
Rhoi gwers
Hogyn annwyl iawn ydi Gwyn Annwyl - oedd yn cystadlu hefo Band Llanrug heddiw a llwyddais i'w berswadio i roi gwers ar y corned i Geraint Lloyd.
Ac er i Geraint lwyddo i gynhyrchu rhyw ddwy wich - digon ydi dweud na fydd o'n ymaelodi ag unrhyw fand yn y dyfodol agos.
Dyfodol llewyrchus
Ond mae'r dyfodol yn edrych yn llewyrchus iawn i un unawdydd ifanc o Seindorf Arian Deiniolen - sef Daniel Ellis. Dyma ichi dalent. Roedd o'n perfformio fel unawdydd ar yr iwffoniwm, ac wrth wneud hynny roedd o rhywsut yn llwyddo i anwesu a siglo'r offeryn ac ar ben ei ddigon ar ôl dod oddi ar y llwyfan.
Mae 'na griw da o weithwyr yn y cefn 'ma - gan gynnwys y tîm sydd yn symud cadeiriau a'r piano nôl a mlaen oddi ar y llwyfan.
Mae nhw'n griw direidus dros ben, ond 'da ni'n cydweithio'n hapus ers blynyddoedd bellach ac yn dallt ein gilydd i'r dim!
Mae na lun wedi ei dynnu - ac mi fydd o'n cael ei ddefnyddio cyn diwedd yr wythnos . . .