'Mae o yn y papur . . .'
A'r wythnos hon bydd miloedd o'r hyn oeddem ni'n arfer eu galw yn blant yn cychwyn ar flwyddyn newydd o addysg.
Rhai yn cychwyn mewn ysgol am y tro cyntaf - eraill yn symud o'r hyn oeddem ni'n arfer ei galw yn 'ysgol fach' i 'ysgol fawr' - er mae rhywun yn amau a yw'r trawsnewid yn un mor enbydus y dyddiau hyn ag oedd o bymtheg, ugain, deg ar hugain a mwy o flynyddoedd yn ôl.
Bydd rhai yn dychwelyd i'r ysgol gyda chanlyniadau arholiadau yn eu sgrepan -TGAU ac yn y blaen.
Cawsom oll ein diddanu y pythefnos ddiwethaf yma gyda lluniau o ferched glandeg yn sgrechian ac yn anwesu ei gilydd oherwydd rhyw lwyddiant neu siom neu'n waeth byth, fethiant, neu'i gilydd.
Gwnaed yn fawr o'r cyfnod trawmatig hwn yn eu hanes gyda'r argraff yn cael ei roi bod yr ysgytwad emosiynol sydd ynglÅ·n ag arholiadau TGAU a Safon Uwch yn fwy enbydus heddiw nag a fu erioed.
Tybed. Un peth sy'n sicr mae'r ffordd o dorri'r newyddion i'r arholiadyddion yn llawer caredicach heddiw nag oedd i'm cenhedlaeth i er enghraifft.
Y ffordd arferol o gael gwybod sut oedd rhywun 'wedi gwneud' yr adeg honno oedd mynd i'r siop bapur newydd i gyrchu copi o'r Daily Post (yn y gogledd) a fyddai'n cyhoeddi'r canlyniadau i'r byd yn grwn gael gwybod maint eich llwyddiant neu aflwyddiant.
Rhan o'r tynnu coes - creulon - weithiau fyddai rhyw oedolyn yn y siop yn dweud wrthych chi pan yn cyrraedd nad "ydi denw di ddim yna o gwbwl"!
Er mor gyhoeddus y cyhoeddi does gen i ddim cof am fechgyn a merched yn neidio i'r awyr a'u Daily Postiau yn faneri yn y gwynt. Dim ond y rhai oedd wedi gwneud yn arbennig o sâl yn ceisio ymwroli yng ngŵydd eu ffrindiau cyn sleifio adre a'u cynffonau rhwng eu gafl a'r rhai a wnaeth yn arbennig o dda yn rhyw geisio gwneud yn fach o'u llwyddiant rhag brifo'r aflwyddiannus yn eu plith - er yr oedd y sbonc yn eu calon i'w gweld yn eu llygaid wrth gwrs.
Erbyn heddiw, yn bersonol i'r ymgeisydd y trosglwyddir y canlyniadau sy'n siwr o fod yn garedicach.
Ond allwch chi ddychmygu beth mae hynny wedi ei wneud i gylchrediad y Daily Post - a'r Wester Mail siŵr o fod yn y dehau - ar y diwrnod arbennig hwn?
Mewn sawl cartref yn y gogledd yr oedd hwn yr unig ddiwrnod mewn blwyddyn y bydden nhw'n prynu'r papur - gyda rhieni yn astudio'r ddalen yn ofalus am oriau wedyn yn cymharu canlyniadau . . . ac yn rhyfeddu.
"Sut mae o wedi medru cael hynna - a chdithau ddim ond . . ."
Dyddiau difyr. Wel ie, yn eu ffordd.
Be ydi'ch atgofion chi am y diwrnod Lefel O a Lefel A tybed . . .
SylwadauAnfon sylw
Fel 'tae hi'n ddoe cofio mynd i nôl y papur o'r siop a rhoi fy meic i orffwys ar ochr wal y parc cyn dechrau chwilio am fy enw.
Crynu fel deilen wrth ei agor. Methu ffeindio fy enw. Ei weld yn y diwedd a rhyfeddu fod pob dim yno ond English Lang. Mi fu hwnnw'n boen i mi ar hyd y bedlan. English Lit - iawn. Ond gramadeg Saesneg efo'r Subject a Predicate a'r holl gwafars i gyd, yn ormod i mi.
Mi oedd y canlyniadau yn destun sgwrs i'r fro am wythnosau wedyn. A phethau fel hyn yn cael eu deud:
'Wnaeth hi'n dda a chysidro'r amgylchiada' a 'Fawr yn 'i ben o yn y diwadd er cymint mae o'n agor ei geg'.
Hen bryd adfer y drefn fuaswn i'n deud i ni weld be ydi hyd a lled y petha ifanc 'ma!
Oes rhywun yn gwybod pryd y peidiodd yr arferiad o ddatgelu'r canlyniadau yn y papur newydd? Bu rhai yn holi ynglŷn â hynny.
Glyn