Golygydd newydd
Mae un o'r papurau crefyddol fu'n chwilio am olygydd wedi dod o hyd i un.
Golygydd nesaf fydd Pryderi Llwyd Jones, un o weinidogion mwyaf blaenllaw y Presbyteriaid Cymraeg.
Erbyn hyn wedi 'ymddeol' ac yn byw yng Nghricieth bu Pryderi Llwyd Jones yn Weinidog Capel Morfa, Aberystwyth er 1989.
Fe'i magwyd ym mhentref y Ffôr ar y ffîn rhwng Llŷn ac Eifionydd.
Mae'n awdur Iesu'r Iddew a Chymru 2000, cyfrol sy'n gofyn llu o gwestiynau dadleuol am y ffydd Gristnogol gyda'r bwriad o brocio Cymry Cymraeg sydd wedi troi cefn ar grefydd gyfundrefnol i edrych o'r newydd ar eu cyflwr moesol ac ysbrydol.
Dywedodd unwaith mai ei gyfraniad mwyaf creadigol fu bod yn dad i ddau o blant!
Mae'n dilyn y bardd a'r llenor John Gruffudd Jones yn olygydd Y Goleuad gan gychwyn yn yr hydref.
Mae'r newyddiadur crefyddol arall, yn dal i chwilio am olygydd i ddilyn Huw Tegid Roberts sy'n dymuno trosglwyddo'r awenau.