Gair i gall
Bwyd Cymreig anghymreig, trydar Gwilym Owen, beudy'r Babell Lên - cofio'r wythnos a fu trwy nodi rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau Cymreig ers dydd Gwener diwethaf.
A gwahoddiad i chwithau rannu gyda ni y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi. Anfonwch nawr . . .
- Bydden ni'n awyddus iawn i gael yr un math o drefniant - Aled Roberts, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 am gynllun Sul am ddim Eisteddfod Blaenau Gwent.
- Mae'n debyg mai dyma un o'r profiadau mwyaf cyffrous i'n myfyrwyr ni - Eilir Owen Griffiths, arweinydd côr TCC Prifysgol y Drindod Dewi Sant a fydd yn cystadlu ar y rhaglen 'Don't Stop Believing'.
- Mae hi'n ddigalon iawn pan ydach chi yng nghanol beudy mawr gwag, heblaw am ryw ugain o loeau eraill - Twm Morys yn mynegi ei ddigalonnid am y Babell Lên wrth .
- Rydym yn dal i fethu credu bod y gog wedi canu cyhyd eleni - Mair Wyn Thomas, Llawrplwy, Trawsfynydd, yn y 'Daily Post'.
- I'r rhan fwyaf o bobl ifanc nid y teledu yw'r cyfrwng pwysicaf bellach ond y cyfrifiadur a'r we. Mae yna fwy yn gwylio clips poblogaidd yn ddyddiol ar You Tube na sydd erioed wedi gwylio S4C ers dechrau'r Sianel pob dydd yn gyfangwbl - Rhys Mwyn yn y .
- Ydi popeth drosodd i Henson wrth i'r Gweilch golli amynedd? - pennawd yn y 'Western Mail'.
- Hon, yn sicr, fydd fy ymgyrch olaf ac rwy'n teimlo bod gen i rywbeth i'w brofi - John Toshack yn wynebu gemau Pencampwriaeth Ewrop 2012.
- Un o gwestiynau mawr yr wythnos i mi yn bersonol ydi pwy ydi'r dihiryn sydd wedi rhoi negeseuon ar 'Twitter' yn fy enw i? Diawl, fedra i ddim defnyddio cyfrifiadur, felly, pwy bynnag sy'n ffugio sylwadau ar y bali we yn fy enw, peidied. Rŵan. - Gwilym Owen.
- Yr ydw i wedi dewis S4C oherwydd fy mod yn teimlo ei bod yn mynd i rywle - John Hartson sydd wedi ymuno â thîm 'Sgorio'.
- Rydym ni am weld rhieni, teidiau a neiniau, brodyr a chwiorydd hyn ac oedolion eraill yn darllen gyda phlant yn ystod gwyliau'r haf. Gall deng munud o ddarllen wneud gwir wahaniaeth - Leighton Andrews AC y Gweinidog Addysg yn rhoi cychwyn i ymgyrch newydd 'Rho Amser i Ddarllen'.
- Tafod y Ddraig - pennawd yn am Craig Bellamy.
- Ni ellid profi mai dyna oedd 50% o'r hyn a ddisgrifiwyd fel cig oen Cymreig - Llefarydd o Gyngor Môn a fu'n ymchwilio i fwydydd mewn lleoedd bwyta a ddisgrifiwyd fel Lleol, Cymreig, ffres, Traddodiadol a Chartref.
- Mae cynnyrch Cymreig yn rhyfeddol ac y mae cogyddion ifanc yn penderfynu y byddai'n well iddyn nhw agor lle bwyta yng nghefn gwlad Cymru yn agos at y cynnyrch lleol - Elizabeth Carter, golygydd y 'Good Food Guide' yn gweld tuedd ymhlith cogyddion i symud o Lundain i Gymru.
- Fel rheol yr ydym yn rhybuddio cwsmeriaid i beidio â gadael eu byrddau oherwydd y gwylanod. Maen nhw wedi bod yn dwyn hufen iâ o ddwylo plant hyd yn oed - John Evans, perchennog Y Bachgen Du yng Nghaernarfon sydd wedi dechrau defnyddio hebog a thylluan i ddychryn gwylanod sy'n dwyn bwyd oddi ar blatiau cwsmeriaid sy'n bwyta yn yr awyr iach.
- Doeddem ni ddim yn hoffi'r agwedd o gwbl - Mike Russell y gwrthodwyd mynediad iddo ef a'i wraig Carol i gêm griced Morgannwg ym Mae Colwyn oherwydd bod ganddyn nhw lwyau metel yn eu bag.
- Y mae rhywbeth yn ein natur sy'n ein gwneud yn hunan feirniadol ac efallai ein bod ni braidd yn dueddol o dynnu'n hunain i lawr ond y mae gennym ni lawer i fod yn falch ohono - Bet Davies o yn ymfalchïo yn y 'Western Mail' am yr hyn y mae Cymru wedi ei gyflawni.