91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyddiau dramatig

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:17, Dydd Mercher, 4 Awst 2010

Cafwyd mwy o gwestiynau nag o atebion mewn sesiwn yn Theatr y Maes ym Mlaenau Gwent i drafod dyfodol cwmni Theatr Genedlaethol Cymru.

Yno yn arwain y drafodaeth yr oedd Ioan Williams, cadeirydd bwrdd y cwmni, sydd hefyd yn cadeirio gweithgor sydd a'r dasg o gyhoeddi adroddiad yn awgrymu lle mae mynd yn y dyfodol.

Gydag ef yr oedd Daniel Evans un o actorion mwyaf dawnus Cymru a Chyfarwyddwr Artistig pedair o theatrau yn Sheffield lle mae wedi creu cryn enw iddo'i hun a chael ei ganmol yn y wasg genedlaethol Saesneg am ei flaengaredd.

Mewn anerchiad agoriadol codi nifer o gwestiynau am ddyfodol posibl y theatr yng Nghymru wnaeth ef. Tywys y gynulleidfa i ystyried y posibiliadau yn hytrach na chynnig atebion iddi. Gyda rhybudd o ddyddiau ariannol dyrys.

Daniel Evans a Ioan Williams

Er i rai yn y gynulleidfa niferus ymateb gyda sylwadau, os oedd Ioan Williams yn gobeithio am weledigaeth eglur ar gyfer ariolwg neu adroddiad y mae ei weithgor yn ei baratoi aeth adran'n ddyn siomedig - bydd yn rhaid i'r gweithgor lunio ei weledigaeth ei hun.

Mi ddaeth yna ddau beth yn gwbl amlwg, fodd bynnag, bod yna nerfusrwydd mawr ynglŷn â dwyieithrwydd ac o gael theatr genedlaethol ddwyieithog a hynny oherwydd yr ofn arferol y byddai i un iaith oruchafiaeth dros y llall.

Diawch yr oedd Ioan Williams mor nerfus fe wnaeth o fygwth, ddwywaith, crogi ei hun neu ladd rhywun a chael ei grogi wedyn!

Y peth eglur arall oedd anhapusrwydd y llwyfan ynglŷn â diffyg safon ein hadolygwyr a'u hadolygiadau. "Gwachul" oedd disgrifiad Daniel Evans ohonyn nhw a'r sefyllfa yn un y dylid "edrych arni"..

"Does yna ddim trafodaeth ddigon dwys na addas na phriodol ar gyfer ein gwaith ni," meddai gan ychwanegu nad oedd yn siŵr os mai swydd Theatr Genedlaethol Cymru, beth bynnag, yw datblygu adolygwyr "gan y byddai hynny'n cael ei weld fel inside job ond yn sicr mae'n rhywbeth y dylid edrych arno fo," meddai.

Ond os cafwyd adolygwyr yn eisiau ni fu neb yr un mor llawdrwm na beirniadol o'r hyn y maen nhw'n ei gael i'w adolygu.

Soniwyd ddim chwaith y gellid cyfrif ar fysedd dwy law a dwy droed nifer y gynulleidfa mewn ambell i le na sut oedd cysoni hynny gyda neuaddau llawn i weld yr un cynhyrchiad mewn lleoedd eraill.

Na sut y bu i lond gwlad o adolygwyr labuddio Tyner yw'r Lleuad Heno gan meic Povey er i nifer o aelodau cyffredin cynulleidfaoedd gael eu plesio'n iawn.

Yr oedd rhywun yn teimlo weithiau tybed na ddylid fod wedi tynnu llinell eglurach rhwng adolygu drama a llunio beirniadaeth theatraidd.

Eglurodd Ioan Williams mai'r dasg nesaf fdd i'w weithgor lunio dogfen ddrafft a fydd yn cael ei hystyried gan y cwmni a'i chyflwyno wedyn i Gyngor Celfyddydau Cymru yn y gobaith y bydd Cyngor y Celfyddydau yn "deall a chymeradwyo".

Erbyn hyn yr oedd Ioan Williams yn gwahodd pobol i daflu tomatos ato fo - a Daniel Evans am wni - ond nid rhai mewn tun, meddai.

Ond nes daw CCC i benderfyniad gallwn fod yn eithaf sicr na fydd Mr Williams yn crogi ei hun . Stori arall fydd hi os na fydd CCC yn "deall a chymeradwyo" a gallwn ddisgwyl datblygiadau dramatig iawn tua Lledrod na.
[Llen]

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.