Darlith hanesydd
Mae Dr Elin Jones fel corwynt o awel iach. I ddechrau mae hi'n un o'r bobol brin hynny sy'n siarad y bêr Wenhwyseg - a mae hi'n fy ngalw i'n "Gwyn bêch". A mae hi'n hanesydd i gynhesu'r galon Gymreig yn y dyddiau hyn pan mae'r grymoedd torfol am ein hanwybyddu ni Gymry a'n tylwyth Celtaidd.
Yr oedd ei hanerchiad i Undeb Cymru a'r Byd yn donic. "Mae'r gwledydd Celtaidd i gyd yn cymryd eu dehongliad o hanes o bersbectif Lloegr," meddai. "A mae isha newid hyn."
Nid yw Lloegr eisiau gwybod na chydnabod dim am hanes Cymru. Mae nhw fel pe'n benderfynol o sgubo hanes y Celtiaid allan o'n hymwybod. Gwyliwch raglenni teledu sy'n ymwneud â hanes yr ynysoedd hyn a chlywch chi mo'r gair Celt yn cael ei ddefnyddio.
Ceir ambell gyfeiriad at Yr Oes Efydd, Oes yr Haearn - ond byth gyfeiriad at y Celtiaid - ac yna daw'r Rhufeiniaid. A'r Sacsoniaid - hwrê fawr pan ddaw'r rheini. Cyn bo hir bydd cyfres deledu am y Normaniaid, ymdrech arall i selio'r holl fusnes Seisnig yma ac anwybyddu'r Cymry a'r Albaniaid.
"Mae angen shiglo'r caleidoscôp a mi gewn ni batrwm gwahanol, a chêl gogwydd Gymreig ar ein hanes," meddai Dr Elin. "Yr oedd Owain Glyndŵr ac Owain Lawgoch yn ymdrîn yn uniongyrchol a Ffrainc. Nid estyniad o Loegr oeddan nhw. Mae angen pwysleisio'r gogwydd Cymreig i'n hanes ni.
"Mae Linda Colley yn ei llyfr Britons yn dweud fel cychwynnodd y syniad o Brydeindod yn y ddeunawfed ganrif. A'r ganrif nesaf gyda'r Chwyldro Diwydiannol daeth y Cymry a'r Albanwyr yn aelodau hapus o fyddinoedd a masnach Prydain a pharhau wedyn gyda'r un agwedd at eu hanes."
Fuasai Dr Elin byth yn cydnabod hyn, ond cam bras fuasai i Gymru gael cwricwlwm hanes nad yw'n dilyn un Lloegr yn wasaidd.