Absenoldeb
Seremoni i anrhydeddu Prif Lenor yr Eisteddfod oedd ar y llwyfan y pnawn yma.
Ond doedd yr Orsedd ddim allan yn ei nerth - er i Robyn LlÅ·n frwydro'n galed dros y blynyddoedd i sicrhau fod prif lenor rhyddiaith ein Prifwyl yn cael ei gydnabod gan yr Orsedd.
Yn wir, dim ond pedwar Prifardd oedd ar y llwyfan yna'r pnawn ma a dim ond chwech o Brif Lenorion y gorffennol.
Tybed gafodd y rhai oedd yn absennol fwy o gefnogaeth pan gawsant hwy eu haeddiant?