91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Lle i wella nid i walla

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:20, Dydd Llun, 12 Gorffennaf 2010

Am wythnosau lawer yn y Saithdegau bu papur newydd lleol y Caernarvon and Denbigh Herald yn hysbysebu 'Tomato pants' ar werth.

Gwell peidio a sôn beth alwodd Y Cymro gwmni drama Arad Goch un wythnos flynyddoedd yn ôl bellach ond doedd wnelo fo ddim a lliw yr arad!

Ac mewn papur lleol saesneg yn y gogledd ddwyrain gwelwyd siop yn estyn "Croeso Cynnes i Barot" yn hytrach nag i bawb.

Do, dros y blynyddoedd bu Diawl y Wasg yn elyn llawer rhy hawdd i'w gael mewn cyfyngder.

Ac mae'n ymddangos ei fod yn dal ar waith fel y dengys y cywiriad difyr hwn yn un o bapurau bro Ynys Môn:

Gwaith y Diafol
Bu diafol y Wasg yn hynod o brysur yn crwydro tudalennau rhifyn Mehefin o'r Rhwyd. Gadawodd ei ôl ar sawl erthygl ac adroddiad heb i neb ei ddal dan y chwydd wydr.

Ymddiheurwn am sawl gwall gan gydnabod bod lle i wella ond nid i 'walla'.

Siom (a sioc) oedd canfod y penawd anghywir uwchben ail ran o stori Ann Wyn Owen ... 'Y Gusan Hallt', parhad o'r bennod gyntaf a argraffwyd yn rhifyn Mai oedd hon, ac er bod cysylltiad a'r 'Blethen Aur', o dan y teitl 'Y Gusan Hallt' yr ymddangosodd y rhan gyntaf o'r stori.

Diolch byth na chafodd y camgymeriad unrhyw effaith ar y mwynhad â'r pleser o ddarllen stori arbennig iawn. Beth ddywedai? 'Sorri Miss' ddigwyddith o ddim eto . . . ymddiheuriadau didwyll iawn.

A mae yna fwy! . . . pwysodd awdur 'Byd Natur' fotwm y cyfrifiadur yn frysiog a ffwrdd a'r copi drafft i Langefni, G. O. Parry'n teimlo'r gwres hefyd . . . gweler y rhan olaf o'r copi cyflawn ar dud ....

Yng ngholofn W R Owen mae cyfeiriad at Gapel Salem (A), Bryngwran, fel addoldy wedi cau. Camddealltwriaeth ddigwyddodd, mae oedfa yn Salem yn achlysurol a diolch i Mr Harri Roberts am hynny, y fo sy'n cadw'r drws ar agor; bydd W R yn falch iawn o glywed.

Wel, dyna ni, daw Mehefin ddim am flwyddyn arall, gobeithio bod yr hen ddiafol wedi gwneud i waetha am sbel!. Peidiwch a bod yn or-feirniadol, cofiwch mae gwirfoddolwyr dygn sydd yn yr afael a'r Papur Bro.

Ella nad oes lle i walla, ond mae eu cywiro yn medru bod yn destun cryn ddifyrrwch. Hei lwc y y bydd gwallau'r dyfodol yn cael eu dal cyn iddyn nhw ymddangos yn rhwyd y golygydd.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.