Gwers aur
Ar faes yr Eisteddfod cyfaddefodd Caryl Lewis, Llywydd dydd Mercher yr Eisteddfod, bod ei chysylltiad hi â Llanerchaeron yn mynd yn ôl i'r dyddiau pan oedd yn berchen pysgodyn aur.
Byddai'n cael ei hanfon yno yn groten, meddai, i nôl dŵr o'r afon ar gyfer ei physgodyn aur.
"Achos roedd Mam yn hollol grediniol nad oedd dwr tap yn dda i ddim i bysgodyn aur," meddai.