Am ddweud - dyfyniadau
Ar ddiwedd wythnos sydd yn dirwyn i ben mewn ansicrwydd gwleidyddol cyfle i ail flasu rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau ers dydd Gwener diwethaf.
A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr â'r .
- Mi fyswn i'n fotio i Bin Laden cyn fyswn i'n fotio i chdi - Etholwr wrth AS Arfon, Hywel Williams, yn canfasio yng Ngharmel yn ôl 'Golwg'.
- Nid lle'r Wasg yw rhoi cyngor i bwy mae bwrw pleidlais. Os nad oes gennym farn ar beth sy'n deg i bawb, yna prin ein bod yn ddinasyddion cydwybodol - John Gruffydd Jones, Golygydd 'Y Goleuad'.
- Yr ydw i eisiau gweld mwy o bobl go iawn yn sefyll etholiad - nid o fyd artiffisial bybl San Steffan yn unig - Polly Mackenzie o Lanfair ym Muallt, pennaeth polisi strategol y Rhyddfrydwyr Cymdeithasol.
- Mae angen i nifer ohonyn nhw gael gwersi siarad cyhoeddus - Hafina Clwyd yn y 'Western Mail' yn cwyno am safon ymgeiswyr seneddol. "Yr wyf wedi dod ar draws rhai gwan ddychrynllyd," meddai.
- Mae'n ddigon hawdd beio'r gwleidyddion am ddiffyg safon a sylwedd y trafod yn ystod yr etholiad cyffredinol yma. Ond hyd gwela i mae llawn cymaint o fai ar y cyfryngau, gyda'u hobsesiwn am sarhau'r gwylwyr yn y ffyrdd mwya hurt ac arwynebol - Lefi Gruffudd yng nghylchgrawn dydd Sadwrn y 'Western Mail'.
- Rhaid imi ddweud imi gael fy synnu. Roeddwn i'n meddwl ein bod yn ennill - Lembit Opik ar ôl colli ym Maldwyn.
- Mae'n anodd iawn deall gwleidyddiaeth Ynys Môn yn dydi? - Dafydd Iwan neithiwr.
- Dydw i'n gwybod dim amdano. Dydw i ddim wedi hyd yn oed feddwl amdano. Does gen i ddim diddordeb o gwbl yn y pwnc felly allai ddim dweud llawer amdano - Leigh Halfpenny, y chwaraewr rygbi yn ymateb i gwestiwn gan y Wales on Sunday am yr Etholiad Cyffredinol.
- Lloyd George; er mwyn gofyn os oedd e'n nabod fy nhad - Vaughan Roderick, Gohebydd Materion Cymreig y 91Èȱ¬, yn ateb cwestiwn 'Golwg' pa wleidydd o'r gorffennol hoffai gwrdd.
- Rhaid inni redeg 90 milltir yr awr i sefyll yn llonydd - Mike Callus, prifathro Ysgol Babyddol Sant Joseph yn gorfod dygymod â chyfyngiadau ariannol.
- Tic-toc. Tic-toc. Glywch chi'r cloc yn tician? - Neges Ewyllys Da yr Urdd yn rhybuddio bod yr amser yn prinhau i fynd i'r afael â chynhesu bydeang.