Noson hir Llyfr y Flwyddyn
Er iddi gael ei disgrifio fel un o nosweithiau pwysicaf y byd celf yng Nghymru ac yn noson y mae cyrff fel yr Academi a Chyngor y Celfyddydau "yn rhoi pwys mawr arni hi" noson hynod gyffredin oedd noson cyhoeddi Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn ym Mangor neithiwr.
Ac er na pharhaodd ond rhyw awr a chwarter llwyddodd i fod yn noson hir hefyd.
A dydw i ddim yn meddwl ei bod hi'n annheg dweud iddyn nhw fod yn brysurach yn ailstocio'r bwrdd rhannu gwin na'r bwrdd a godwyd i werthu'r llyfrau ar y rhestr.
Ond efallai i bethau brysuro wedi i mi adael ac i bobl ddechrau prynu yn eu diod.
-
Dyma'r eildro'n olynol i'r digwyddiad gael ei gynnal yn "Y Ganolfan Rheolaeth", Prifysgol Bangor, ond anodd deall pam gan mai nodwedd amlycaf y neuadd lle cynhaliwyd y digwyddiad yw ei llawr swnllyd ac ar adegau yr oedd hi'n anodd clywed beth oedd yn cael ei ddweud dros lefain y bordiau wrth i griwiau teledu ac eraill symud o un lle i'r llall.
At ei gilydd, llwyd oedd y traethu ar wahân i Ian Gregson, un o'r beirniaid Saesneg, a fentrodd gyflwyno chydig o hiwmor i'w sylwadau trwy sôn sut y bu iddo dynnu dwy wraig i'w ben trwy agor ffenest ar fws yn Sir Fôn.
Ei gamwedd, meddai, oedd agor y ffenest ac yntau "ddim o fama"!
"Mi ddwedais mod i wedi byw yma ers 32 o flynyddoedd," meddai, "ond doedd hynny ddim digon!"
Rhoddodd ef gwlbrij wedyn i'r "llawer o farddoniaeth sâl ar bwnc hunaniaeth genedlaethol" sy'n cael ei sgrifennu.
"Mae eisiau stopio rhai o'r bobl yma rhag sgwennu," medda fo.
Dwi ddim yn amau na allai'r beirniaid Cymraeg fod wedi dweud rhywbeth tebyg am rai o'n hawduron ninnau hefyd - bod angen eu stopio. Nes daw'r golygyddion creadigol i'r llorpiau o leiaf.
Dyna ddigon am y noson beth am ddewis Branwen Gwyn, John Gwilym Jones ac Aled Lewis Evans o lyfrau?
Yn amlwg bu llacio rhywfaint ar staes y gystadleuaeth eleni i alluogi cynnwys cyfrol hardd John Davies a Marian Delyth Y Can Lle i'w Gweld Cyn Marw. Mae rhywun yn synio na fyddai hon wedi ei hystyried yn gymwys gan rai o feirniaid y gorffennol mwy nag y byddai cyfrol D Densil Morgan am Lewis Edwards.
Gwelwyd cyn hyn hepgor hunangofiannau yn llwyr er enghraifft dan yr argraff fod gwahaniaeth rhwng pwnc a phwnc mewn gogoniant.
Ar wahân i'r callio hwn go brin bod dim yn ddadleuol - na chyffrous am restr 2010 - ond yr oedd yn ddiddorol gweld mai dim ond un o brif nofelau Eisteddfod Genedlaethol 2009 aeth a bryd y beirniaid sef cyfrol y Fedal Ryddiaith - ond y tri wedi cadw drws Y Llyfgell ynghau!
Fel yr ydw innau hefyd hyd yn hyn.