91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llond ceg - dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 11:04, Dydd Gwener, 16 Ebrill 2010

Ail flasu'r wythnos trwy gofio rhai o'r pethau a ddywedwyd yn y wasg ac ar y cyfryngau ers dydd Gwener diwethaf.

A gwahoddiad i chwithau rannu y doniol, y difyr neu'r dwys a welsoch chi gyda ni. Anfonwch nawr.

  • Nid mater o ddim hoffi cennin Pedr yw e ond o edrych ar ôl ein treftadaeth. Os oes raid ichi eu cael cadwch nhw yn eich gardd, mewn pot neu yn yr Iseldiroedd - nid yng nghefn gwlad [Cymru] - y Dr Andy Tasker, amgylcheddwr, yn cwyno bod cennin Pedr yn hagru cefn gwlad Cymru ac yn lladd planhigion eraill.
  • Mae hyn yn gwbl wallgo - Terry Walton yn anghydweld â Dr Tasker.
  • Rwy'n credu y gallwn wneud y gwaith. Rwy'n meddwl fy mod i'n edrych yn normal ddigon a dydw i ddim yn meddwl y byddwn i'n tynnu sylw oddi ar y gwningen - Duncan Culley o Gaerdydd sy'n gobeithio cael gwaith yn edrych ar ôl cwningen dyflwydd oed sy'n llathen o hyd ac yn pwyso 22Kg - tair stôn saith bwys - o eiddo Annette Edwards o Swydd Worcester a ddywedodd ei bod hi'n ei chael yn anodd cario'r anifail ers derbyn triniaeth lawfeddygol ac oherwydd toriad ei ffrog. "Does na ddim llawer ohoni a bod yn onest," meddai yn y 'Wales on Sunday' - am y ffrog.
  • . . . ta faint o blant y chi'n eu cael - er y pryderon oedd gen i o flaen llaw, mae na ddigon o gariad gyda chi ar gyfer pob un - Heledd Cynwal, mam i dri o blant, yn rhifyn mis Ebrill o 'WA-w!'
  • Yr ydym yn dref frenhinol ac yr ydym angen gweld y teulu brenhinol yma mor aml â phosibl - Cynghorydd Anita Kirk yn croesawu penderfyniad y Frenhines i ymweld â Chaernarfon am y tro cyntaf ers yr arwisgiad yn 1969.
  • Does gan Charlotte a Gavin ddim nanis felly mae'r plant efo hi pan yn ffilmio. Maen nhw'n ymddangos eu bod mewn cariad go iawn - John Partidge, cyd feirniad Charlotte Church ar 'Over the Rainbow'.
  • Credaf fod angen i ni yn yr eglwysi Cymraeg aikl afael yn y cyfarfodydd gweddi a magu arfer o'r newydd o weddïo o'r frest - Rhys Llwyd yn 'Cristion'.
  • Y si yw mai Tom Jones wnaeth, ond does neb yn gwybod yn iawn pwy cymrodd e - Len Davies 80 oed o Glwb Cymdeithasol Fochriw yn cadarnhau bod lladrad cyw iâr i'w rafflo yn y clwb ar noson yr oedd Tom Jones - Tommy Scott ar y pryd - yn perfformio yno yn 1963 yn parhau heb ei ddatrys. Ond mae Syr Tom yn dal wedi ei wahardd o'r pentref yn ôl y 'Wales on Sunday'.
  • Pan oeddwn i yn RADA roedd pobl yn dweud fy mod i'n rhy fychan, yn rhy annwyl ac yn rhy Gymreig. Yn ffodus does neb yn dweud hynny nawr - Joanna Page sy'n actio Stacey yn 'Gavin & Stacey'.
  • Un penderfyniad, un ymgais, un camgymeriad; dyna'r cyfan oedd rhwng y ddau dim. Wnaethom ni ddim rhoi i fyny o gwbl a dyna'r cyfan allwch chi ei ofyn gan griw o fechgyn. Mae'n galed ond dyna chwaraeon - Ryan Jones, capten y Gweilch, yn dilyn penderfyniad dyfarnwr yn y gêm 29-28 yn erbyn Biarritz.
  • Y sws gyntaf gefais i oedd mewn disco yng Nglan Llyn gyda merch o Ben LlÅ·n. Mae gen i ofn gennod Pen LlÅ·n byth ers hynny - Tudur Owen yn rhifyn mis Ebrill o 'WA-w!'

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.