91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Help beiro

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:38, Dydd Gwener, 19 Mawrth 2010

Ers imi flogio am y peth yr wythnos o'r blaen mae'r Cyngor Llyfrau yn awr wedi cyhoeddi datganiad swyddogol am y swyddi golygyddion creadigol sy'n cael eu creu yng Nghymru.

Er mai heddiw mae hwnnw'n cyrraedd mae o dipyn bach ar ei hol hi cyn belled ag y mae ymddangosiad hysbysebion y swyddi yn bod - ond dyma mae o'n i ddweud:

"Yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cynulliad Cymru bod arian ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer swyddi golygyddion creadigol cyfrwng Cymraeg, fe fydd nifer o swyddi newydd yn y diwydiant cyhoeddi'n cael eu hysbysebu'n fuan.

"Rydym yn croesawu'r buddsoddiad pellach yma yn fawr iawn; mae'n newyddion ardderchog i'r byd cyhoeddi," meddai Elwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru.

Dywedodd ei fod yn arwydd o hyder Llywodraeth y Cynulliad yn y fasnach lyfrau.

Ond dim cweit cymaint o hyder yng ngalluoedd sgrifennu awduron o bosib!
Y fi sy'n dweud hynny gyda llaw, nid y Cyngor Llyfrau.

Mae'r Cyngor yn ei weld "yn gymorth mawr i gryfhau isadeiledd y diwydiant."

"Fe fydd hefyd yn sicrhau swyddi mewn ardaloedd gwledig lle mae nifer o'r cyhoeddwyr wedi'u lleoli," meddai Elwyn Jones.

'Yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gallu sicrhau arian ychwanegol i awduron gan gynorthwyo rhai o'n prif awduron i ysgrifennu llyfrau amrywiol ac apelgar sydd wedi cael croeso brwd gan y darllenwyr. Mae'n gyfle yn awr i ni fuddsoddi yn yr ochr olygyddol er mwyn parhau i sicrhau deunydd o'r safon uchaf," meddai.

Croesawu
Croesawyd y datblygiad gan Myrddin ap Dafydd, Cadeirydd Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru hefyd a pherchen un o'n gweisg prysuraf, :

"Mae crefft y golygydd mor bwysig wrth bontio rhwng yr awdur a'r cyhoedd - mae'n sicrhau llyfrau mwy llyfn a darllenadwy. Bydd y gweisg yn cyd-fuddsoddi yn y cynllun hwn er mwyn codi'r farchnad llyfrau Cymraeg i dir uwch eto," medda fo.

Tair cangen
Cyfeiriodd y Gweinidog diwylliant, Alun Ffred Jones, at dair elfen yn y datblygiad:

"Fe fydd y golygyddion newydd hyn yn cyfrannu at wella ansawdd llyfrau, cynyddu'r gwerthiant a gwella profiad y darllenwyr," meddai.

Mae rhai hysbysebion wedi ymddangos yn y wasg yn barod ac mae'n ymddangos y bydd rhagor neu fe ellir cysylltu ag Adran Grantiau y am ragor o wybodaeth am y cynllun.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.