Amen i air sydyn . . .
A hithau'n rhoi'r cig a'r pwdin reis yn y popty cyn cychwyn i'r capel bob bore Sul gobeithio am bregeth fer a thaclus fyddai un wraig oeddwn i'n ei hadnabod.
"Os aiff o mlaen yn rhy hir," medda hi am y pregethwr, "mi fydd y cig wedi llosgi a'r pwdin reis wedi difetha."
Fe fydda hi o bawb wedi cymeradwyo yr hen, hen, gyngor a roddid i offeiriaid a gweinidogion Saesneg - a dydi o ddim yn gyfieithiadwy:
"If you haven't struck oil with the congregation in ten minutes stop boring."
A phe bydda hi'n dal yn fyw fe fydda hi wedi bod fwy nag wrth ei bodd clywed yr wythnos diwethaf fod offeiriaid yr Eglwys Babyddol wedi cael gorchymyn o'r Vatican i fod yn fyr ac i bwrpas eu homilïau.
Wyth munud ar y mwyaf sy'n dderbyniol bellach yn ôl yr Archesgob Nikola Eterovic, ysgrifennydd cyffredinol Synod yr Esgobion.
Y farn yw na all pobol ista'n llonydd a thalu sylw am ddim mwy na hynny.
Y gred oedd mai ugain munud oedd "attention span" pobol - ond yn awr y mae o'i lawr i dan ddeng munud mae'n ymddangos.
Pan fyddwn i'n dilyn pregethau ers talwm fyddai'r rhan fwyaf o bregethwyr ddim wedi gorffen rhoi'r testun allan mewn wyth munud - na chyrraedd yr ail ben mewn ugain munud.
Doedd hi ddim yn beth anghyffredin i bregeth lusgo mlaen radeg honno hanner awr, deugain munud, dri chwarter awr.
Rheini'n beth fydda i'n alw yn Bregethau PMI - Pedwar Munt Imperial - achos i gadw rhywun rhag 'stwyrian yn ei sedd byddai'r wraig yn y sêt tu blaen imi yn troi rownd bob hyn a hyn a rhoi un o'r peli bach crwn imi sugno arni.
Ac er cymaint oeddwn i'n hoffi munt imperials roedd yn gas gen i y pregethau - a'r pregethwyr - hynny.
Beth fyddai cynulleidfaoedd heddiw yn ei wneud ohonyn nhw Duw yn unig a ŵyr - yn wir, mi fydda i'n cael yr hyn oedd yn cael ei alw yn "funud i feddwl" ar y radio - Dweud eich Dweud heddiw - yn hir ambell i fore. Gan ddibynnu pwy sy'n traethu.
Ac erbyn meddwl nid am faint mae rhywun yn siarad sy'n gwneud y gwahaniaeth ond beth sy'n cael ei ddweud a sut mae'n cael ei ddweud.
Dawn brin.
Bendith arnoch..