91Èȱ¬

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Twyll, dichell a darnau o bapur

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:39, Dydd Iau, 4 Chwefror 2010

Diolch i'r dechnoleg ddiweddaraf mae'n ymddangos bod hyd yn oed twyllo mewn arholiadau wedi mynd bellach yn rhywbeth sydd y tu draw i allu arbenigwyr i'w reoli.

Gyda ffonau symudol yn cael eu henwi fel yr arfau grymusaf sydd ym meddiant plant ysgol sy'n sefyll eu arholiadau TGAU a Lefel A.

Wrth gwrs, mae twyllo mewn arholiadau yn rhywbeth sydd cyn hyned ag arholiadau eu hunain - a faint ohonom all bledio'n gwbl ddieuog o'r camwedd?

Y dull yn hytrach na'r bwriad sydd wedi newid.

"Crubio," oedd gair mawr fy nyddiau i yn yr ysgol gyda nodiadau ar ddarnau o bapur yn cael eu cuddio yn eich hosan neu i fyny llewys i ymgynghori â hwy yn ddirgelaidd yn ystod yr arholiad.

Ystafell arholiadau

Byddai ambell un yn smyglo llyfrau cyfain i arholiadau i ymgynghori'n drwsgwl â hwy dan y ddesg - obnd i gael pelten gyda'r dywededig lyfr pe byddai athro yn eich dal!

Heddiw, mae trafferth cael yr hawl i wahardd plant fynd â'u ffonau symudol i ystafell arholiad meddir.

Nodiadau beiro ar gledr llaw fyddai hen ddull arall ac ar eich braich chwith os yn sgrifennu â'r llaw dde ond yn aml iawn byddai gwres y dydd yn peri i'r inc redeg ac i'r cymorth fod yn annarllenadwy.

Hefyd, byddai'n hawdd i athro ofyn ichi ddinoethi ei braich. Ac er mwyn datrys y broblem honno y byddai merched yn sgrifennu eu nodiadau hwy dan eu sgertiau ar ran uchaf eu coesau gan wybod na fyddai'r un athro yn meiddio mentro yno!

Dull poblogaidd arall o smyglo gwybodaeth i'r ystafell oedd mewn blychau neu byrsiau pensilau ac yn nyddiau pin ac inc ar bapur blotio.

Efallai bod gennych chwithau brofiad o'r ystrywiau hyn - anfonwch air.

91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.